CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Newyddion

04 Aug 2025

Blaenoriaethau Cynllunio Iaith yng Nghymru a Gwlad y Basg Heddiw: trafodaeth ford gron gyda Begotxu Olaizola a thiwtoriaid a myfyrwyr y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith.

Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ar Flaenoriaethau Cynllunio Iaith yng Nghymru a Gwlad y Basg heddiw gyda Begotxu Olaizola a thiwtoriaid y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd. Cynhelir y drafodaeth ar ddydd Iau, 7fed o Awst am 1yp ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

31 Jul 2025

Lansio fideos Cyfieithu ar y Pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Braf yw gwahodd y Gymdeithas a Manon Cadwaladr, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i lansio’r fideos ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Iau y 7fed o Awst am 10yb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam.

15 Jul 2025

Dathlu Sêr y Cwrs Sabothol yn graddio yn Abertawe!

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod athrawon ar gyrsiau Sabothol 2023/24 a 2024/25 yn graddio yng Nghaerfyrddin ar yr 8fed o Orffennaf ac yn Abertawe ar y 15fed o Orffennaf.

15 Jul 2025

Myfyrwyr y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn graddio

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod ail garfan y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith wedi graddio ar y 15fed o Orffennaf 2025.

08 Jul 2025

Dathlu myfyrwyr Tystysgrif Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd yn graddio.

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod carfan 2024 o’r Dystysgrif Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd yn graddio ar yr 8fed o Orffennaf.

26 May 2025

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Dathlu Sêr y Cwrs Sabothol ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau myfyrwyr y Cwrs Sabothol eleni drwy gynnal sesiwn arbennig ar stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd.

15 Nov 2024

Ffordd arloesol o ddysgu Cyfieithu ar y Pryd

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu cymhwyster ôl radd Cyfieithu ar y Pryd o dan arweiniad Lynwen Davies. Dyma’r unig gymhwyster ôl-radd o’i fath yng Nghymru. Mae’r Dystysgrif yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac yn derbyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

19 Aug 2024

Myfyrwyr y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn graddio yn Abertawe

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod carfan gyntaf o’r Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith wedi graddio.

05 Aug 2024

Prif heriau diogelu'r Gymraeg heddiw: trafodaeth ford gron gydag arbenigwyr a graddedigion Tystysgrif Ôl-Raddedig Polisi a Chynllunio Iaith PCYDDS

Tair o gyn-fyfyrwyr y Dystysgrif Ôl-Raddedig Polisi a Chynllunio Iaith, Sioned Wyn Stacey, Bethan Price a Mandy James yn ymuno gyda’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd, dwy fydd yn darlithio ar y cwrs a Begotxu Olaizola i drafod Prif Heriau Diogelu’r Gymraeg heddiw. Ymunwch gyda ni ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Mercher y 7fed o Awst am 11yb.

14 Jun 2024

Cryfhau Cysylltiadau Rhyngwladol: Myfyrwyr Prifysgol Rio Grande yn Ymweld â PCYDDS Campws Caerfyrddin

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) groesawu grŵp o fyfyrwyr o Adran Addysg Prifysgol Rio Grande (URG). Trefnwyd yr ymweliad gan Dan Rowbotham, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, sy’n gyn aelod o staff a chyn-fyfyriwr PCYDDS.