CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Myfyrwyr y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn graddio

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod ail garfan y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith wedi graddio ar y 15fed o Orffennaf 2025.

Mae’r cymhwyster arloesol hwn yn ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth gyfoes ac angenrheidiol ynghyd â phrofiad cymhwysol.

Mynegodd Manon Humphreys un o raddedigion y Dystysgrif, “Mae cael astudio ar y cwrs hwn wedi rhoi sylfaen wybodaeth heb ei hail i mi, er mwyn i mi barhau i weithredu dros y Gymraeg yn hyderus ac yn gywir. Mae mynd i lygad y ffynnon a chlywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt wedi bod yn arbennig o gyffrous.”

Ychwanegodd myfyriwr arall sydd newydd raddio, “Un o’m hoff bethau am y cwrs oedd cael y cyfle i gwrdd â’m cyd-fyfyrwyr ac ers astudio, rydym wedi creu cymuned sydd wedi bod yn hynod werthfawr i ni nid ond i gefnogi ein gilydd yn fyfyrwyr ond fel gweithwyr o fewn y maes.”

Cynhaliwyd sgwrs ford gron yn Eisteddfod yr Urdd, Parc Margam eleni er mwyn trafod Hanfodion Cynllunio Iaith a Dyfodol y Gymraeg. Roedd y myfyrwyr wrth eu boddau yn ymuno â’r tiwtoriaid ar y panel, a chael y cyfle i rannu eu profiadau o fod yn fyfyrwyr ar y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith.

Nododd un o’r graddedigion, “Yn rhan o’r sgwrs, daeth i’r amlwg gymaint rydym wedi dysgu fel myfyrwyr wrth i ni ymateb i sbardun y darlithwyr yn hyderus a chyffyrddus.” Cytunodd Manon drwy nodi, “Roedd yn hyfryd cael cyfle i rannu rhai o’r profiadau arbennig ges i ar y cwrs, a gobeithio ceisio annog eraill i ystyried astudio ar y cwrs hefyd. Roedd hefyd yn braf cael gweld y darlithwyr a’r myfyrwyr eraill yn y cnawd. Dwi’n hynod ddiolchgar bod y cwrs ar gael yn ddigidol – byddai wedi bod yn amhosib i mi astudio’r cwrs pe bai’n rhaid i mi deithio i’r campws bob wythnos am fod gen i ddwy o blant bach a swydd lawn amser – ond mae’r cyfleoedd i gwrdd wyneb yn wyneb yn amhrisiadwy hefyd.”

Nododd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, “Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith wedi ei hanelu’n benodol at ymarferwyr proffesiynol ac unigolion sydd am greu gyrfa yn y maes cyffrous hwn. Mae’r cwrs yn cyfuno gwybodaeth arbenigol a phrofiadau ymarferol, yn rhoi ffocws ar Gymru ac ar wahanol gyd-destunau rhyngwladol. I ni’r tiwtoriaid mae’n bleser croesawu’r criw newydd bob blwyddyn. Mae pob myfyriwr yn dod â phrofiad i’w gyfrannu at y trafodaethau diddorol ac ysbrydoledig sy’n digwydd rhyngom yn ystod y cwrs.”

Nododd nifer o’r myfyrwyr gymaint mae’r Dystysgrif yma wedi codi eu hymwybyddiaeth ynghylch y materion sy’n wynebu’r Gymraeg ynghyd a datblygu eu hyder i weithredu newidiadau yn eu gwaith bob dydd, gan gynnwys “datblygu’r amodau i sicrhau bod y Gymraeg yn gallu ffynnu i bawb, ble bynnag maent ar eu teithiau gyda’r iaith.”

Ychwanegodd Manon, “Mae’r cwrs wedi agor fy llygaid i’r cyfoeth o waith ymchwil, data a theori sydd ar gael i fy nghefnogi wrth fy ngwaith fel rheolwr polisi a chydymffurfiaeth, ac mae cyfleoedd yn codi’n rheolaidd i roi’r hyn a ddysgais ar waith.”

Cynigir y Dystysgrif eleni eto gan ddechrau diwedd mis Medi 2025, cysylltwch â’r tîm cyn gynted â phosib am fwy o wybodaeth neu i ymgeisio [email protected]