CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Cyrsiau Sabothol

Darpariaeth / Cyrsiau

Rhaglen o gyrsiau iaith ar gyfer athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth yw’r Cynllun Sabothol, a’i nod yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Rhagoriaith sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol dan nawdd y Llywodraeth yn Ne Orllewin a Chanolbarth Cymru, yn ogystal â chymedroli’r holl gyrsiau ym mhob rhanbarth yn genedlaethol.

Dyfyniad o gyn-fyfyriwr y Cwrs Sabothol;

‘Pan ddecheuais i’r cwrs doeddwn i ddim yn gwybod pa mor anhygoel ydy’r iaith Gymraeg, ond yn gyflym cwympais i mewn cariad gyda'r iaith a dw i'n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i fynd ar y cwrs. Ers gorffen y cwrs dw i wedi parhau i ddysgu ar gyrsiau eraill, ac ar hyn o bryd dw i ar gwrs uwch. Roedd y profiad yn anhygoel, mae gen i fwy o hyder ac mae'r plant yn yr ysgol yn mwynhau dysgu Cymraeg nawr. Baswn i'n argymell y cwrs i bawb!'

Cwrs Sabothol Cymraeg i Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg

Dyddiadau: 28ain o Ebrill - 18fed o Orffennaf 2025

Lefel Canolradd

Addysgir y cwrs am dridiau ar-lein a dau ddiwrnod wyneb yn wyneb mewn hwb lleol.

Ariennir yn llawn gan y Llywodraeth a thelir grant tuag at gostau cyflenwi i'r ysgol ac unrhyw gostau teithio ychwanegol i'r ymarferwyr.

Rhoddir pwyslais ar ddysgu Cymraeg
Dysgir sut i addysgu'r Gymraeg yn drawsgwricwlaidd yn yr ysgol
Dysgir am fethodolegau caffael ac addysgu iaith
Dysgir y sgiliau angenrheidiol i godi safonau'r Gymraeg nôl yn yr ysgol

Llenwch y ffurflen hon i fynegi diddordeb;

Ffurflen
Cysylltu â ni