CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Is-deitlo

Darpariaeth / Cyrsiau

Dyma gwrs arloesol a gynigir ar gyfer darpar isdeitlwyr. Mae’r defnydd cynyddol o ddeunydd clyweledol yn ein bywydau pob dydd wedi arwain at gynnydd enfawr yn y galw am isdeitlo yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r cwrs yn ddatblygiad naturiol i unigolion sydd wedi gwneud rhywfaint o gyfieithu ac awydd datblygu eu sgiliau personol, neu unigolion sy’n ystyried datblygu gyrfa yn y maes hwn. Cynlluniwyd y Dystysgrif mewn cydweithrediad â chwmnïau isdeitlo a darlledwyr proffesiynol.

Bydd y partneriaid allanol yn cyfrannu’n helaeth tuag at y cymhwyster, drwy addysgu a chynnig lleoliadau ar gyfer profiadau gwaith. Cymhwyster yw hwn fydd yn cyfuno arferion da a phrofiadau gwerthfawr yn y gweithle gyda sesiynau academaidd ond ymarferol ar gampws Llambed.

Cyflwynir amrywiaeth o sgiliau angenrheidiol i’r maes ac ystyrir nodweddion rhaglenni amrywiol, megis cyflymder llefaru, rhannu isdeitlau, defnydd o orchmynion lleisiol, rhythm, ayyb. Ceir hyfforddiant hefyd yn egwyddorion ieithyddol a sgiliau technegol angenrheidiol ar gyfer isdeitlo’n broffesiynol a chiwio’n fyw.

Bydd elfen ymarferol y modwl yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y myfyrwyr wrth iddynt roi cynnig ar ymarfer y grefft o isdeitlo o’r newydd dan gyfarwyddyd.

Canolbwyntir ar weithdai ymarferol mewn awyrgylch broffesiynol er mwyn i fyfyrwyr ddeall gofynion isdeitlo. Mae’r rhaglen hon yn cyfuno theori ac ymarfer drwy gynnig dwy ffrwd arbenigol, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar leoliadau gwaith mewn cwmnïau isdeitlo proffesiynol.

Datblygir medrusrwydd mewn ystod eang o sgiliau galwedigaethol a throsglwyddadwy gan gynnwys, casglu gwybodaeth , datblygu dyfeisgarwch unigol a rheoli amser, meddwl yn ddadansoddol, y gallu i adnabod problemau a ffyrdd o’u datrys.

Cysylltu â ni