CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Amdanom Ni

Sefydlwyd Rhagoriaith, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2017 er mwyn datblygu, darparu ac arwain ar ddarpariaeth hyfforddiant iaith y Brifysgol yn fewnol i fyfyrwyr a staff, yn ogystal ag yn fasnachol ar lefel genedlaethol.

Mae’r Ganolfan wedi datblygu ac yn darparu cyrsiau dysgu iaith a chyrsiau gloywi iaith i fyfyrwyr ac aelodau staff y Brifysgol, ac mae ganddi rôl allweddol wrth ddarparu cyrsiau gloywi iaith i fyfyrwyr Yr Athrofa, sef Cyfadran Addysg y Brifysgol. Mae’r Ganolfan hefyd yn gyfrifol am ddwy dystysgrif ôl-raddedig, sef Tystysgrif Cyfieithu ar y Pryd sy’n rhan o gynllun Meistr cenedlaethol, sef MA Astudiaethau Cyfieithu, ac am dystysgrif ym maes Is-deitlo. Y Dystysgrif Isdeitlo yw’r unig un o’i bath yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn strategol, y Ganolfan sy’n arwain cyrsiau Cynllun Sabothol Llywodraeth Cymru fel cymedrolwr cyrsiau’r rhaglen a ddarperir mewn saith canolfan ar draws Cymru, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth. Darperir yn uniongyrchol i ymarferwyr addysg ar draws ardal eang sef Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot. Eleni, mae’r Ganolfan hefyd yn arwain ar y gwaith o beilota cwrs dysgu Cymraeg mewn blwyddyn i garfan benodol o athrawon, ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn atodol i hyn, mae’r Ganolfan yn cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg a hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i gyrff allanol i’w cynorthwyo i ymateb i ofynion y Safonau Iaith. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu’n strategol at agendâu strategol ar lefel genedlaethol mewn perthynas â’r Safonau Iaith a’r targed o gyrraedd hanner miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae’r Ganolfan hefyd yn cyfrannu at brosiectau iaith perthnasol sy’n cael eu cartrefu oddi fewn i Ganolfan Peniarth. Mae’r rhain yn brosiectau comisiwn gan Lywodraeth Cymru ac yn cyfrannu’n uniongrychol at godi safonau llythrennedd a rhifedd ar draws y sector addysg yng Nghymru.

Mae arbenigeddau’r staff a’u profiad o ddysgu ar gyrsiau’r cynllun Sabothol yn golygu y gallant gynnig hyfforddiant o’r ansawdd uchaf. Gellid cynnig hyfforddiant iaith ar delerau masnachol i’r sector addysg yng Nghymru, boed y rheiny’n gyrsiau i’r sector addysg bellach neu’n gyrsiau HMS wedi’u teilwra, er mwyn ymateb i anghenion y sectorau cynradd ac uwchradd.