CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Newyddion Diweddaraf

10 Awst 2026

Sêr y Sabothol yn cael eu dathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd dathliad arbennig ym Mhentref y Garreg Las ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Sadwrn, 8 Awst i anrhydeddu ‘Sêr y Sabothol’ – ymarferwyr addysg o Sir Benfro sydd wedi elwa ar gyrsiau sabothol dysgu Cymraeg dwys dros y pymtheg mlynedd ers sefydlu’r cynllun.

08 Gor 2026

Richard Buckeley yn cryfhau ei gyfraniad i'r Gymraeg ar ôl graddio gyda Thystysgrif mewn Polisi a Chynllunio Iaith PCYDDS

Mae Richard Buckeley, sy’n gweithio i’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), wedi graddio gyda Thystysgrif Polisi a Chynllunio Iaith o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Mwy o Newyddion

Mae Rhagoriaith yn un o ddarparwyr hyfforddiant Cymraeg mwyaf blaenllaw Cymru yn y sector addysg ac yn un o ddarparwyr y Cynllun Sabothol a chyrsiau’r Gweithlu Addysg o dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Rhagoriaith yn gallu darparu cyrsiau pwrpasol ar gyfer ysgolion i fodloni gofynion penodol, e.e. gwersi un-i-un neu ddarpariaeth datblygiad proffesiynol. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu yn benodol i godi hyder a hyfedredd athrawon a dysgwyr, codi safonau ar draws yr ysgol a helpu i ddatblygu gallu unigolion i addysgu’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ar bob lefel.

Gall Rhagoriaith ddarparu hyfforddiant Cymraeg ar bob lefel a byddem yn hapus i drafod gofynion penodol unigolion neu ysgolion. Gall rhain fod yn gyrsiau untro fel rhan o ddiwrnodau HMS ysgol neu’n gyrsiau mwy rheolaidd. Mae ein cyrsiau’n amrywio o ddysgu Cymraeg o’r newydd i alluogi siaradwyr Cymraeg i deimlo’n fwy hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg mewn ystafell ddosbarth. Mae gennym brofiad o ddysgu Cymraeg ar sail un-i-un i Benaethiaid a gallwn hefyd gynnig cyrsiau mwy arbenigol megis hyfforddi athrawon i ddatblygu sgiliau llythrennedd a darllen Cymraeg.

Cysylltwch â ni nawr i drafod eich syniadau a'ch gofynion.

Partneriaid a Chleientiaid