CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Cyrsiau Dysgu Cymraeg

Darpariaeth / Cyrsiau

Bob gwanwyn a haf,  trefna’r Ganolfan gyrsiau iaith dwys o wythnos ar gyfer dysgwyr o oedolion. Cyflawnir y gwaith dysgu gan diwtoriaid a darlithwyr profiadol sy’n arbenigo mewn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.

Y mae ein cyrsiau dwys yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu a siarad yr iaith mewn byr o dro. Erbyn diwedd y cyrsiau, mae gan y myfyrwyr ddealltwriaeth drwyadl o’r iaith, gramadeg, geirfa a phatrymau ynganiad. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu’r gallu i fynegi eich hun er mwyn cynyddu hunan hyder, rhuglder a’r gallu i ddefnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth.

Rhoddir sylw personol i unigolion o fewn y dosbarthiadau bach gyda phwyslais ar weithio mewn parau ac mewn grwpiau. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud y dysgu’n brofiad pleserus, hwyliog a heriol er mwyn ysgogi unigolion i weithio’n galed a chael canlyniadau!

Mae’r myfyrwyr i gyd yn rhannu’r un nod o gyflawni’r freuddwyd o lwyddo i siarad yr iaith yn rhugl. Wrth gwrs, y mae’r ffaith fod y Brifysgol wedi ei lleoli mewn ardal Gymraeg ei hiaith yn cynnig cyfle arbennig i ddysgwyr wrth ymarfer eu Cymraeg. Mae’r cyrsiau’n gyrsiau prifysgol achrededig.

Y ffordd berffaith i ddysgu Cymraeg; lle gellir ymgolli yn yr iaith.

Cysylltu â ni