Yn dilyn lansiad Tystysgrif Ôl-Raddedig Polisi a Chynllunio Iaith Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, eleni fe fydd tair o gyn-fyfyrwyr y cwrs, Sioned Wyn Stacey, Bethan Price a Mandy James yn ymuno gyda’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd, dwy fydd yn darlithio ar y cwrs a Begotxu Olaizola i drafod Prif Heriau Diogelu’r Gymraeg heddiw. Ymunwch gyda ni ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Mercher y 7fed o Awst am 11yb.
Manteisia’r Dystysgrif ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r cymhwyster arloesol hwn yn ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth gyfoes ac angenrheidiol ynghyd â phrofiad cymhwysol.
Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio ym maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned megis swyddogion iaith, cynllunwyr iaith, swyddogion y Llywodraeth, llunwyr polisi a gweithwyr ieuenctid. Bydd hefyd yn darparu sail gadarn i fyfyrwyr graddedig sydd eisiau datblygu gyrfa sy’n ymwneud â dwyieithrwydd neu amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig.
Cynigir cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain. Rhinwedd bellach y dystysgrif hon yw ei bod yn denu unigolion o alwedigaethau amrywiol sy’n cynnig safbwyntiau eang a chyfoes. Dyma gyfle i unigolion ddatblygu’n broffesiynol a magu hyder yn eu gweithleoedd mewn maes sy’n ehangu ac yn dod yn fwyfwy strategol bwysig.
Nodyn i’r Golygydd
Cynhelir y lansiad ar Stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddydd Mercher, 7fed o Awst am 11 ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhif stondin 129-130.
Am fwy o wybodaeth am y Dystysgrif neu’r lansiad cysylltwch â ni: [email protected]