Dyma gymhwyster arloesol ym maes polisi a chynllunio iaith wedi ei deilwra ar gyfer pobl sy'n gweithio'n llawn amser. Mae’r Dystysgrif yn rhan o radd Meistr MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd.
Bydd y dystysgrif arloesol hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio yn y maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned. Bydd yn rhoi sail gadarn i fyfyrwyr o ran deall prif gysyniadau cynllunio iaith a datblygiad y maes fel gweithgaredd proffesiynol dros y degawdau diweddar. Mae'r cymhwyster hwn yn ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau'r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth gyfoes ac angenrheidiol ynghyd â phrofiad cymhwysol.
Mae’r dysgu yn digwydd ar-lein trwy gyfuniad o seminarau a thiwtorialau, gwaith darllen, aseiniadau a chyflwyniadau. Ceir 60 awr cyswllt dros y ddau semester - 20 sesiwn, 3 awr yr un.
Modwl 1: Hanfodion Cynllunio Iaith
Medi - Ionawr
Ystyried yn feirniadol brif agweddau damcaniaethol y maes cynllunio iaith drwy gyfeirio at ddamcaniaethau a dadansoddiadau perthnasol ac enghreifftiau ymarferol a dynnir o Gymru a thramor, ynghyd â thrafod y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.
Modwl 2: Hyrwyddo'r Gymraeg
Chwefror - Mai
Archwilio sut yr hyrwyddir y Gymraeg yng Nghymru drwy gynllunio ieithyddol gan astudio’r modd y mae sefydliadau cyhoeddus yn gwneud hynny, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Archwilir hefyd sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg ynghyd ag asiantaethau’r wladwriaeth ac eraill.
Ffioedd: Cost i'w gadarnhau, gellir talu'r ffi mewn rhanddaliadau. Mae bwrsari o £250 ar gael ar gyfer adnoddau a £50 am bob 10 credyd.
"Roedd dysgu am fframweithiau adfer iaith a chael cyfle i'w gweld yn cael eu rhoi ar waith yn brofiad gwerthfawr iawn. Roedd modd i mi wella dealltwriaeth y rhai o'm cwmpas yn y gwaith hefyd a pha gamau i'w cymryd nesaf o ganlyniad i astudio modiwlau'r dystysgrif hon. Heb os, mae'r cynnwys yn eang ac yn hynod ddiddorol, mae'r addysgu'n gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd i drafod, i ddadlau ac i wneud cyfeillion oes, yn ddarlithwyr ac yn gyd-fyfyrwyr."
"Mae cael astudio ar y cwrs hwn wedi rhoi sylfaen wybodaeth heb ei hail i mi, er mwyn i mi barhau i weithredu dros y Gymraeg yn hyderus ac yn gywir. Mae mynd i lygad y ffynnon a chlywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt wedi bod yn arbennig o gyffrous."
Os hoffech chi dderbyn fwy o wybodaeth am y dystysgrif neu gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â ni i drefnu sgwrs.
