CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Cyfieithu ar y Pryd

Darpariaeth / Cyrsiau

Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, cynigia Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyfle unigryw i gyfieithwyr a darpar gyfieithwyr ennill cymhwyster galwedigaethol, ymarferol mewn cyfieithu ar y pryd.

Arweinydd y dystysgrif yw Lynwen Davies, awdur e-lyfr Cyfieithu ar y Pryd a Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru. Caiff y sesiynau eu harwain gan ddwy sy'n flaenllaw yn y maes sef Lynwen Davies a Nerys Hurford.

Ydych chi wedi gweld Llwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru?

Mae'r wefan hon yn cynnig cefnogaeth i unigolion sy'n dymuno dysgu ac ymarfer y grefft o gyfieithu ar y pryd. Mae'r llwyfan yn cartrefu deunyddiau hyfforddi sy'n cynnwys clipiau ffilm, cyfarwyddiadau proffesiynol a chronfeydd termau sy'n gysylltiedig â'r clipiau. Mae'r deunyddiau a'r cyfarwyddiadau wedi'u creu gan ymarferwyr profiadol, a'u nod yw sicrhau bod cyfieithwyr ar y pryd y dyfodol yn cael eu meithrin a'u datblygu yn unol â'r safonau proffesiynol disgwyliedig.

Yn ogystal mae modd i ymarferwyr recordio a chadw eu cyfieithiadau ar ei peiriant yn lleol er mwyn gwrando arnynt ac adfyfyrio ar eu perfformiad. Wrth ymuno â'r cwrs hwn gallwch gael mynediad llawn at holl gynnwys y llwyfan!

Mae’r Dystysgrif yn rhan o gynllun Meistr Cenedlaethol, sef MA Astudiaethau Cyfieithu.

"Rwyf wedi mwynhau'r cwrs yn fawr ac wedi llwyddo i fagu hyder a phrofiad gwerthfawr yn y maes o gyfieithu ar y pryd, drwy astudio'r dystysgrif ôl-raddedig. Ar ddechrau'r cwrs, roedd cyfieithu ar y pryd yn faes eithaf newydd i mi yn bersonol, ond rhoddwyd cyfle parhaus yn ystod y modylau i ddatblygu a mireinio'r sgil o gyfieithu, drwy amrywiaeth o sefyllfaoedd ymarferol, a chyfleoedd i gysgodi cyfieithwyr profiadol."

Dyma gyfle i ddilyn cwrs lle byddwch yn:

  • derbyn hyfforddiant proffesiynol yn y dechneg o gyfieithu ar y pryd mewn grwpiau bychain yn y Brifysgol o dan arweiniad Lynwen Davies.
  • datblygu sgil fydd yn ddefnyddiol i chi yn y gweithle ac yn ehangach na hynny mewn cyfarfodydd cymunedol.
  • cael cyfleoedd unigryw i gysgodi cyfieithwyr proffesiynol gan gynnwys Lynwen Davies a Nerys Hurford mewn cyfarfodydd amrywiol.

Cyfle...

  • i ennill yr unig gymhwyster Cyfieithu ar y Pryd yng Nghymru sy'n cael ei gydnabod gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
  • i gael mynediad llawn i Lwyfan Cyfieithu ar y Pryd Cymru wedi'i awduro gan arweinydd y cwrs, Lynwen Davies.
  • i ddilyn cwrs sy'n arwain at bob math o gyfleoedd cyflogaeth - fel cyfieithydd llawrydd neu fel cyfieithydd mewn sefydliad.
  • i ddilyn modylau unigol neu'r 3 modwl er mwyn ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd sef yr unig un o'i fath.

Os hoffech chi dderbyn fwy o wybodaeth am y dystysgrif neu gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â ni i drefnu sgwrs.

Cysylltu â ni