Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod carfan gyntaf o’r Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith wedi graddio.
Mae’r cymhwyster arloesol hwn yn ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth gyfoes ac angenrheidiol ynghyd â phrofiad cymhwysol.
Nododd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:
“Mae’r dystysgrif hon yn arloesol. Bwriad y dystysgrif yw gosod polisi a chynllunio iaith yng Nghymru mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gyfuno’r ymarferol gyda’r damcaniaethol er mwyn dyfnhau ein gwybodaeth ac ehangu ein gorwelion i wneud gwahaniaeth yn y maes.”
Ychwanegodd Kara Lewis, Rheolwr y Rhaglen:
“Ry’n ni’n hynod o falch o’n myfyrwyr. Mae gweld eu cynnydd a thwf yn eu hyder wrth drafod y maes yn ystod y flwyddyn wedi bod yn brofiad cadarnhaol i ni gyd. Ry’n ni’n bwriadu sefydlu rhwydwaith i barhau â’r sgyrsiau a’r gefnogaeth y tu hwnt i’r cwrs.
“Bydd angen sicrhau arbenigedd galwedigaethol ym maes cynllunio ieithyddol er mwyn gwireddu gweledigaeth y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a bydd cyfraniadau’r garfan hon yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth. Er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, a hyrwyddo cydraddoldeb ieithyddol o fewn y sector gyhoeddus, y sector breifat, y byd addysg a mwy, mae angen dealltwriaeth o strategaethau effeithiol, ymarferol a grymus. Dyma gymhwyster proffesiynol sy’n cyplysu’r gweithgarwch ymarferol cyfoes â sylfeini academaidd damcaniaethol y maes cynyddol bwysig hwn.
“Pob dymuniad da i’n myfyrwyr a llongyfarchiadau.”
Mynegodd Bethan Price, myfyrwraig ar y cwrs:
“Roedd y cwrs yma'n gyfle i adlewyrchu ar effaith polisi yn fy ngwaith bob dydd: sut mae polisi'r gorffennol wedi siapio'r system sydd gennym ac effaith hynny ar siaradwyr Cymraeg presennol. Roedd astudio ar y cwrs yn fy ngalluogi i gamu 'nôl a chraffu ar y cynllunio mewnol a'r strategaethau sydd gennym mewn lle. Mae'r gwaith y gwnes i ar gyfer y cwrs wedi dechrau effeithio'n uniongyrchol ar gynlluniau'r sefydliad dwi'n gweithio drosto. Mae hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio gydag unigolion eraill yn y maes, sydd wedi dod yn ffrindiau”
Ychwanegodd Carys Edwards, myfyrwraig arall o’r cwrs:
"Mae'r cwrs wedi rhoi persbectif newydd i fi ar fy ngwaith, gan alluogi i fi gymryd yr amser i ddysgu ac edrych yn fanylach ar y theori tu ôl i'r gwaith o ddydd i ddydd. Dwi wedi mwynhau clywed am sefyllfa ieithoedd lleiafrifol eraill, a deall yn well sut mae'r Gymraeg yn cyfrannu at y darlun rhyngwladol. Roedd y seminarau yn gwibio wrth wrando ar y darlithwyr a'r arbenigwyr amrywiol ac angerddol. O safbwynt personol, mae wedi bod yn braf iawn rhoi'r meddwl ar waith mewn ffordd wahanol ac yn bleser dod i nabod gweddill y criw ar y cwrs."
Cwrs rhan amser, ar-lein yw hwn yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir sesiynau byw gan Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd, gyda nifer fawr o siaradwyr gwadd blaenllaw’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Nodyn;
Cynigir y dystysgrif eleni eto gan ddechrau mis Medi 2024, cysylltwch â’r tîm cyn gynted â phosib am fwy o wybodaeth neu i ymgeisio [email protected]