CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Modiwlau Gloywi Iaith

Darpariaeth / Cyrsiau

Mae’r Ganolfan wedi datblygu ac yn darparu cyrsiau dysgu iaith a chyrsiau gloywi iaith i fyfyrwyr ac aelodau staff y Brifysgol, ac mae ganddi rôl allweddol wrth ddarparu cyrsiau gloywi iaith i fyfyrwyr Yr Athrofa, sef Cyfadran Addysg y Brifysgol.

Mae’r Ganolfan yn dysgu modylau ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg BA Addysg a SAC, ynghyd â sesiynau Gloywi Iaith ar gyfer myfyrwyr uwchraddedig TAR cynradd ac uwchradd yr Athrofa. Y Ganolfan sy’n gyfrifol am sesiynau Cynllun Gwella’r TAR uwchradd. Mae’r Ganolfan hefyd wedi bod yn darparu cyfleoedd dysgu Cymraeg i holl fyfyrwyr TAR uwchradd yr Athrofa.

Mae’r Ganolfan hefyd wedi datblygu modylau 5 credyd sydd ar gael i fyfyrwyr y Brifysgol, drwy drefniant â’r adrannau academaidd, er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg ar gyfer y gweithle. Mae dau fodwl ar gael, un ar gyfer myfyrwyr di-Gymraeg ac un ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac maen nhw’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r Gymraeg yn y gweithle a sut i’w defnyddio’n broffesiynol.

Cysylltu â ni