CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Masnachol

Darpariaeth / Cyrsiau

Mae’r Ganolfan yn cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg a hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i gyrff allanol i’w cynorthwyo i ymateb i ofynion y Safonau Iaith. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu’n strategol at agendâu strategol ar lefel genedlaethol mewn perthynas â’r Safonau Iaith a’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae arbenigeddau’r staff a’u profiad o ddysgu ar gyrsiau’r cynllun Sabothol yn golygu y gallant gynnig hyfforddiant o’r ansawdd uchaf sydd wedi ei deilwra ar gyfer gweithleoedd penodol. Mae ein cleientiaid yn cynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, staff Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, Cyngor Sir Gâr, Tai Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Gall Rhagoriaith ddarparu hyfforddiant Cymraeg ar bob lefel a byddem yn hapus i drafod gofynion penodol unigolion neu ysgolion. Gall rhain fod yn gyrsiau untro fel rhan o ddiwrnodau HMS ysgol neu’n gyrsiau mwy rheolaidd i unigolion. Mae ein cyrsiau’n amrywio o ddysgu Cymraeg o’r newydd i alluogi siaradwyr Cymraeg i deimlo’n fwy hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg mewn ystafell ddosbarth. Mae gennym brofiad o ddysgu Cymraeg ar sail un-i-un i Benaethiaid a gallwn hefyd gynnig cyrsiau mwy arbenigol megis hyfforddi athrawon sy'n dysgu Cymraeg i ddatblygu sgiliau llythrennedd a darllen Cymraeg. Mae ein prisiau yn amrywio o £45 - £70 yr awr, yn ddibynnol ar natur pob cwrs. Cysylltwch â ni nawr i drafod eich syniadau a'ch gofynion.

Cysylltu â ni