Ymunwch â ni am drafodaeth ddifyr ar Flaenoriaethau Cynllunio Iaith yng Nghymru a Gwlad y Basg heddiw gyda Begotxu Olaizola a thiwtoriaid y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd. Cynhelir y drafodaeth ar ddydd Iau, 7fed o Awst am 1yp ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Manteisia’r Dystysgrif ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r cymhwyster arloesol hwn yn ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth gyfoes ac angenrheidiol ynghyd â phrofiad cymhwysol.
Dywedodd Yr Athro Cysylltiol, Steve Morris, “Ni allaf orbwysleisio gwerth y cyfleoedd mae'r myfyrwyr yn eu cael o astudio ar gyfer y cymhwyster hwn. Rhoddir cyfle iddynt gwrdd â swyddogion perthnasol o Lywodraeth Cymru, academyddion o fri o Gymru a rhai rhyngwladol ynghyd â mynychu cynadleddau/seminarau yn y maes. Nododd y myfyrwyr fod mynychu'r cwrs hwn wedi codi eu hyder a'u bod yn mwynhau'r dysgu yn ogystal â gwerthfawrogi dyfnder y deunydd a gynhwysir ar y cwrs. Mae hon yn dystysgrif gwbl unigryw yng Nghymru ac, fe dybiwn i, un sydd â'r potensial o dyfu'n gymhwyster anhepgor i unrhyw un sy'n gweithio ym maes polisi a chynllunio iaith.”
Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio ym maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned megis swyddogion iaith, cynllunwyr iaith, swyddogion y Llywodraeth, llunwyr polisi a gweithwyr ieuenctid. Bydd hefyd yn darparu sail gadarn i fyfyrwyr graddedig sydd eisiau datblygu gyrfa sy’n ymwneud â dwyieithrwydd neu amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig.
Mynegodd Manon Humphreys un o raddedigion y Dystysgrif, “Mae cael astudio ar y cwrs hwn wedi rhoi sylfaen wybodaeth heb ei hail i mi, er mwyn i mi barhau i weithredu dros y Gymraeg yn hyderus ac yn gywir. Mae mynd i lygad y ffynnon a chlywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt wedi bod yn arbennig o gyffrous.”
Cynigir cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain. Rhinwedd bellach y dystysgrif hon yw ei bod yn denu unigolion o alwedigaethau amrywiol sy’n cynnig safbwyntiau eang a chyfoes. Dyma gyfle i unigolion ddatblygu’n broffesiynol a magu hyder yn eu gweithleoedd mewn maes sy’n ehangu ac yn dod yn fwyfwy strategol bwysig.
Nodyn i’r Golygydd
Cynhelir y drafodaeth ar Stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Iau, 7fed o Awst am 1yp ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Am fwy o wybodaeth am y Dystysgrif neu’r lansiad cysylltwch â ni: [email protected]