CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Ffordd arloesol o ddysgu Cyfieithu ar y Pryd

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu cymhwyster ôl radd Cyfieithu ar y Pryd o dan arweiniad Lynwen Davies. Dyma’r unig gymhwyster ôl-radd o’i fath yng Nghymru. Mae’r Dystysgrif yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac yn derbyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyma gwrs a gynigir yn rhan-amser.

Am y tro cyntaf eleni, darperir profiad trochiannol unigryw i fyfyrwyr y Dystysgrif yn ein hystafell drochi. Dyma brofiad pwrpasol a greuwyd i bontio rhwng y dosbarth a’r gweithle er mwyn codi hyder myfyrwyr yn ymarferol mewn awyrgylch naturiol ond risg-isel.

Mewn un o’r ddwy ystafell drochi sydd gan PYCDDS, profodd y myfyrwyr gyfarfod byw. Caniatawyd i’r myfyrwyr ystyried a thrafod agweddau allweddol amgylcheddol a logistaidd cyn trafod materion cyfieithu yn fanwl. Wedyn, cafwyd cyfle iddynt ymarfer cyfieithu un sesiwn yn unigol, gan eu galluogi i fireinio’u sgiliau a magu eu hyder wrth weithio dan bwysau.

Nododd Lynwen Davies, “Mae cyfieithu ar y pryd yn grefft sydd angen ei hymarfer, a gorau oll y mwyaf o brofiad y mae’r myfyrwyr yn ei gael er mwyn mireinio’u crefft. Bydd treulio amser yn yr ystafell drochi nid yn unig yn rhoi cyfle i roi’r hyn a ddysgwyd yn y dosbarth ar waith ond bydd hefyd yn fodd o ddysgu strategaethau fydd yn eu cynorthwyo i fedru ymdopi â heriau; megis anawsterau clywed yn glir, y lle fwyaf manteisiol i eistedd neu sefyll ac ati. Yr hyn sydd gan yr ystafell drochi i’w chynnig yw amgylchedd diogel i fedru ymarfer a gwneud camgymeriadau, ac wrth gwrs dysgu o’r camgymeriadau hynny.”

Mae’r datblygiad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i arwain y ffordd mewn hyfforddiant arloesol ac i ddarparu profiadau dysgu blaengar sy’n rhoi’r cyfleoedd gorau i’n myfyrwyr lwyddo.

Dywedodd Glyn Jenkins, Rheolwr Profiad Digidol ac Ymgysylltu: “Mae cydweithio â Rhagoriaith a’r rhaglen CAP wedi galluogi ein tîm i ddatblygu profiadau newydd a blaengar. Trwy harneisio ein galluoedd trochi a defnyddio ein technoleg Ystafell Drochi a VR o’r radd flaenaf, rydym yn gwella profiadau addysgu a dysgu, yn gwthio ffiniau addysg draddodiadol ac yn cofleidio dyfodol dysgu trochi.”

Dyma hyfforddiant cydnabyddedig ac addas ar gyfer unigolion sy’n dymuno mentro i’r maes. Yn ystod y cwrs mae myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddyd gan gyfieithwyr ar y pryd profiadol sy’n gweithio’n broffesiynol yn y maes. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymweld â’r Senedd yng Nghaerdydd a bydd y garfan hon yn mynd ar daith yna ar y 3ydd o Ragfyr i weld y bythau, gwylio cwestiynau’r Prif Weinidog yn yr oriel gyhoeddus, a sgwrsio ag aelodau’r tîm.

Cynhelir ein cwrs nesaf (Modwl 1) ar y 16eg a 17eg o Ionawr 2025. Os hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs Cyfieithu ar y Pryd, e-bostiwch [email protected]