Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod carfan 2024 o’r Dystysgrif Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd yn graddio ar yr 8fed o Orffennaf.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu cymhwyster Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd o dan arweiniad Lynwen Davies. Dyma’r unig gymhwyster ôl-radd o’i fath yng Nghymru. Mae’r Dystysgrif yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac yn derbyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gweithreda’r cwrs unigryw ac arloesol hwn, a ddarperir gan arbenigwyr a darlithwyr y Brifysgol, fel sylfaen gadarn i’r myfyrwyr lwyddo mewn maes sy’n angenrheidiol i gyrff cyhoeddus yn unol â gofynion Safonau’r Iaith Gymraeg. Cynigir y cyfle i fireinio’r sgiliau creiddiol ac i dderbyn profiadau euraidd yn y gweithle fel rhan o’r cymhwyster hwn, a hynny rhan amser ar y cyd â swydd llawn amser.
Yn flynyddol mae’r myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar daith i'r Senedd a dyma farn Sioned Bowen, cyn-fyfyrwraig y cwrs ar y profiad, "Roedd yr ymweliad â'r Senedd yn un hynod ddiddorol, gweld technegau cyfieithu ar y pryd a sut yr oeddent yn cyfieithu mewn parau, y math o offer a ddefnyddiwyd a sut y bu'n rhaid iddynt addasu oherwydd Covid a chyfieithu ar y pryd ar lein ac yn y Siambr."
Am y tro cyntaf eleni, darperir profiad trochiannol unigryw i fyfyrwyr y Dystysgrif yn ein hystafell drochi. Mewn un o’r ddwy ystafell drochi sydd gan PYCDDS, profodd y myfyrwyr gyfarfod byw. Caniatawyd i’r myfyrwyr ystyried a thrafod agweddau allweddol amgylcheddol a logistaidd cyn trafod materion cyfieithu yn fanwl. Gallwch ddarllen mwy am y profiad yma.
Meddai Lynwen Davies, arweinydd y dystysgrif; “mae’r defnydd o VR a thechnoleg ymdrochi wedi cyfoethogi’n hadnoddau Cymraeg a hyfforddiant proffesiynol. Felly integreiddio VR i’n Tystysgrif Cyfieithu ar y Pryd i greu amgylchedd dysgu ymgysylltiol a realistig er mwyn cefnogi’r dysgu, i bonito rhwng y Brifysgol a’r gweithle. Llongyfarchiadau gwresog i’r myfyrwyr llwyddiannus eleni.”
Nododd Bethan Griffiths, un o raddedigion y Dystysgrif Cyfieithu ar y Pryd, “Rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn fawr ac wedi llwyddo i fagu hyder a phrofiad gwerthfawr yn y maes o gyfieithu ar y pryd, drwy astudio’r dystysgrif ôl-raddedig. Ar ddechrau’r cwrs, roedd cyfieithu ar y pryd yn faes eithaf newydd i mi yn bersonol, ond rhoddwyd cyfle parhaus yn ystod y modylau i ddatblygu a mireinio’r sgil o gyfieithu, drwy amrywiaeth o sefyllfaoedd ymarferol, a chyfleoedd i gysgodi cyfieithwyr profiadol. Yn y darlithoedd dysgais am y newidiadau a’r datblygiadau diweddaraf, yn ogystal â chlywed am brofiadau arbenigwyr blaenllaw, gan ddysgu llawer o’u harbenigedd.”
Dwy arall sy’n graddio eleni yw Sophie Williams a Sioned Bowen. Mae’r ddwy wedi mwynhau astudio’r dystysgrif yn fawr ac wedi datblygu eu hyder yn y maes cyfieithu ar y pryd. Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy am eu profiadau yn ystod y cwrs.
Fe ddechreuodd carfan 2025 ar fodwl 1 ym mis Ionawr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill cymhwyster galwedigaethol, ymarferol mewn Cyfieithu ar y Pryd? Neu eisiau dysgu sgil newydd neu’n ystyried newid gyrfa?
Cysylltwch gyda ni i drefnu sgwrs pellach – [email protected]