CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Lansio fideos Cyfieithu ar y Pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi cyhoeddi cyfres o naw fideo, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i gynorthwyo trefnwyr, cadeiryddion a mynychwyr cyfarfodydd ble mae Cyfieithu ar y Pryd yn cael ei ddefnyddio.

Braf yw gwahodd y Gymdeithas a Manon Cadwaladr, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i lansio’r fideos ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Iau y 7fed o Awst am 10yb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam.

Dywedodd Manon, “Ein gwaith ni fel cyfieithwyr ar y pryd yw sicrhau fod cyfarfodydd yn digwydd yn llyfn a dirwystr o ran iaith. Ond weithiau mae technoleg yn gallu bod yn faen tramgwydd. Ar ôl i’r cyfarfod a’r cyfieithu ddechrau mae’r cyfieithydd ar y pryd yn sownd wrth ei waith, felly ein gobaith gyda’r fideos yma, yw y byddant yn cynnig canllaw i drefnyddion. Os na fydda nhw’n gallu ateb y cwestiynau i gyd, o leiaf byddant yn gallu tynnu sylw at broblemau sydd angen ateb CYN bod y cyfarfod yn dechrau.”

Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Cymraeg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bydd yn agor y lansiad. Meddai, “Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o’r ffaith mai hi yw’r unig brifysgol sy’n cynnig darpariaeth ffurfiol ym maes cyfieithu ar y pryd ar ffurf tystysgrif ôl-raddedig. Mae’r Brifysgol yr un mor falch o’r berthynas sydd gyda hi â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Mae cefnogaeth y Gymdeithas i’r dystysgrif ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac mae’r cydweithio er mwyn hybu a sicrhau safonau’r grefft a’r proffesiwn pwysig hwn yn allweddol. Yng nghyd-destun hynny, mae’r fideos hyn am fod yn gyfraniad mawr i’r maes.”

Bydd y fideos ar gael ar wefan y Gymdeithas ac mae croeso i unrhyw un eu lawrlwytho a’u rhannu.

Cynhyrchwyd yr animeiddiadau gan Hywel Griffith o gwmni The Gas, Porthaethwy dan oruchwyliaeth Prif Arholwr Cyfieithu ar y Pryd y Gymdeithas, Nerys Hurford a Lynwen Davies, arweinydd y dystysgrif ôl-raddedig Cyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Nodyn i’r Golygydd

Cynhelir y lansiad ar Stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Iau, y 7fed o Awst am 10yb ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Am fwy o wybodaeth am y fideos, cysylltwch â [email protected]