Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod athrawon ar gyrsiau Sabothol 2023/24 a 2024/25 yn graddio yng Nghaerfyrddin ar yr 8fed o Orffennaf ac yn Abertawe ar y 15fed o Orffennaf.
Mae’r cwrs dau dymor yn uwchsgilio athrawon y sector cynradd cyfrwng Saesneg i addysgu’r Gymraeg yn hyderus ac yn effeithiol yn eu hysgolion, yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru. Maent yn dysgu llawer am ddulliau a phedagogeg caffael iaith er mwyn datblygu’n athrawon iaith hyderus.
Mynegodd Joanne Bowers, un o raddedigion y cwrs, “Y Cwrs Sabothol ydy’r peth gorau rydw i erioed wedi wneud. Ar y cwrs, roedd cymaint o gyfleoedd dysgu gwych sydd wedi fy helpu i dyfu fel athrawes. Roedd tiwtoriaid y cwrs yn llwyr ysbrydoledig a mor wybodus a phrofiadol. Gwnaethon nhw sicrhau bod gan bawb mynediad at y Gymraeg drwy ddulliau ac ardduliau dysgu amrywiol.”
Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae’r athrawon yn dychwelyd i’w hysgolion gyda’r iaith, y sgiliau a’r brwdfrydedd i godi safonau’r Gymraeg ar draws yr ysgol a thu hwnt. Nododd nifer o’r athrawon gymaint roedd y cwrs wedi eu hysbrydoli a phawb yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i'w hysgolion i ysbrydoli gweddill y staff a rhannu syniadau ac arferion da. Ychwanegodd Joanne eu bod nhw nawr yn gwneud Gwasanaethau Cymraeg wythnosol, Clwb Cymraeg ar ôl ysgol, gan gynnwys cefnogi athrawon eraill i gynllunio gwersi Cymraeg yn defnyddio Continwwm Iaith Sir Benfro. “Mae hyn wedi bod yn allweddol i ddatblygu’r Gymraeg ar draws yr ysgol.” meddai Joanne.
Mae Joanne o Ysgol Sageston, Sir Benfro wedi bod yn cydweithio’n agos iawn gyda Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg Cyngor Sir Benfro. Meddai Catrin, “Mae Joanne newydd gwblhau'r cwrs sabothol dau dymor gyda Rhagoriaith ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan wneud cynnydd ardderchog yn ei sgiliau iaith Gymraeg ac yn ei dealltwriaeth o fethodoleg effeithiol ar gyfer caffael iaith. Mae hi eisoes wedi dychwelyd i'r ysgol gydag egni ac arbenigedd newydd i ddatblygu'r Gymraeg yn ei hysgol. Mae Joanne eisoes wedi cyfrannu ar lefel sirol drwy chwarae rhan allweddol mewn gweithgor tridiau i helpu llunio fframwaith addysgu ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn y Dysgu Sylfaen. Roedd ei mewnbwn yn werthfawr dros ben – o ran addysgeg, adnoddau ac arferion ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Yn adeiladu ar y gwaith hwn, bydd Joanne yn rhan o dîm fydd yn arwain sesiwn Datblygiad Proffesiynol i ymarferwyr ledled y sir y tymor nesaf – gan sicrhau bod manteision ei chwrs sabothol yn parhau i gael effaith ehangach.”
Nid yn unig gwersi wythnosol sy’n cael eu cynnig i'r athrawon ond cefnogaeth a chyfleoedd ychwanegol i ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg gan gynnwys ymweliadau, siaradwyr gwadd a sesiynau Paned a Sgwrs. Mae’r athrawon wedi mwynhau ymuno yn sesiynau wythnosol Paned a Sgwrs ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin.
Yn dilyn hyn mae Joanne, ar y cyd gyda’i ffrind Dave oedd hefyd ar y cwrs Sabothol, wedi penderfynu sefydlu sesiynau Paned a Sgwrs ym Mhenfro. Meddai, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at y sesiwn gyntaf ym mis Gorffennaf. Rydyn ni’n gyffrous iawn i ddatblygu lle i bobl sydd eisiau siarad Cymraeg.”
Meddai Jeni Price, Rheolwr Rhaglen y cyrsiau Sabothol yn y Drindod Dewi Sant, “Mae dathlu llwyddiannau ymarferwyr y Cynllun Sabothol Cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn hollbwysig i ni fel darparwr. Mae'n gyfle i ni rannu sut y mae'r cynllun yn sicrhau bod athrawon oedd ag ychydig o sgiliau yn y Gymraeg, yn medru dychwelyd i’w hysgolion yn athrawon iaith medrus a chyfrannu’n strategol at ddatblygu’r Gymraeg ar draws yr ysgol yn unol â gofynion Bil Y Gymraeg ac Addysg. Wrth i ni baratoi at weithredu'r Bil newydd hwnnw, ry'n ni'n falch iawn yn y Drindod Dewi Sant i ddathlu cyfraniadau'r athrawon fydd yn gwbl greiddiol i gyflawni ei amcanion.”
O dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae’r Cwrs Sabothol yn parhau i drawsnewid profiadau athrawon ar hyd a lled Cymru, gan gynnig sgiliau, hyder ac ysbrydoliaeth i ddysgu ac addysgu drwy’r Gymraeg.
“Mae’r cwrs yn fwy na chwrs iaith, mae wedi newid fy mywyd. Mae’r Gymraeg yn ffordd o fyw, a dw i wrth fy modd fy mod i’n gallu rhannu fy nghariad at yr iaith, a fy sgiliau iaith gyda phlant fy ysgol a phlant Sir Benfro. Diolch Cwrs Sabothol!” Joanne Bowers.

