Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch i gyhoeddi bod carfan gyntaf o’r Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith wedi graddio.
Tair o gyn-fyfyrwyr y Dystysgrif Ôl-Raddedig Polisi a Chynllunio Iaith, Sioned Wyn Stacey, Bethan Price a Mandy James yn ymuno gyda’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones a Catrin Llwyd, dwy fydd yn darlithio ar y cwrs a Begotxu Olaizola i drafod Prif Heriau Diogelu’r Gymraeg heddiw. Ymunwch gyda ni ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ddydd Mercher y 7fed o Awst am 11yb.
Mae Rhagoriaith yn un o ddarparwyr hyfforddiant Cymraeg mwyaf blaenllaw Cymru yn y sector addysg ac yn un o ddarparwyr Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Sabothol i Athrawon a Chynorthwywyr Dosbarth. Mae Rhagoriaith yn gallu darparu cyrsiau pwrpasol ar gyfer ysgolion i fodloni gofynion penodol, e.e. gwersi un-i-un neu ddarpariaeth datblygiad proffesiynol. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu yn benodol i godi hyder a hyfedredd athrawon a dysgwyr, codi safonau ar draws yr ysgol a helpu i ddatblygu gallu unigolion i addysgu’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ar bob lefel.
Gall Rhagoriaith ddarparu hyfforddiant Cymraeg ar bob lefel a byddem yn hapus i drafod gofynion penodol unigolion neu ysgolion. Gall rhain fod yn gyrsiau untro fel rhan o ddiwrnodau HMS ysgol neu’n gyrsiau mwy rheolaidd i unigolion. Mae ein cyrsiau’n amrywio o ddysgu Cymraeg o’r newydd i alluogi siaradwyr Cymraeg i deimlo’n fwy hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg mewn ystafell ddosbarth. Mae gennym brofiad o ddysgu Cymraeg ar sail un-i-un i Benaethiaid a gallwn hefyd gynnig cyrsiau mwy arbenigol megis hyfforddi athrawon sy'n dysgu Cymraeg i ddatblygu sgiliau llythrennedd a darllen Cymraeg. Mae ein prisiau yn amrywio o £45 - £70 yr awr, yn ddibynnol ar natur pob cwrs. Cysylltwch â ni nawr i drafod eich syniadau a'ch gofynion.