Mae myfyriwr sydd newydd raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill Gwobr Norah Isaac mewn derbyniad arbennig a gynhaliwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam.
Dyfernir Gwobr Norah Isaac yn flynyddol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Sefydlodd y Coleg y wobr hon yn 2014 er cof am Norah Isaac. Dyfernir hi i’r myfyriwr a gafodd y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.
Eleni, Siôn Jones o Ddrefach Felindre a enillodd y wobr. Mae Siôn newydd raddio o’r cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC
Dywedodd: “Mae’n deimlad anhygoel ac yn fraint! Rydw i’n falch iawn o’r gydnabyddiaeth yma oherwydd rydw i’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd ac mae’n rhan fawr o fy mywyd. Mae’n hyfryd cael fy ngwobrwyo am rywbeth sy’n naturiol ac yn bwysig i mi. Roedd yn sypreis arbennig derbyn yr e-bost yn dweud fy mod i wedi ennill y wobr!"
“Mae cwbwlhau’r dystygrif sgiliau iaith wedi gwneud i mi sylweddoli faint o gyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg ac mae ennill cymhwyster fel hyn yn bwysig oherwydd mae’n dangos i eraill fy mod i’n rhugl ac yn ymrwymedig i’r Gymraeg.
“Rydw i’n defnyddio’r iaith yn naturiol o ddydd i ddydd ac mae’n rhan o’n diwylliant a’n hunaniaeth, ond mae cael y cyfle i ennill y dystysgrif tra’n astudio ar y nghwrs wedi rhoi tystiolaeth ffurfiol o’m sgiliau ieithyddol ac mi fydd o gymorth mawr wrth i mi ymgeisio am swydd fel athro, gan ddangos hefyd fy mod i eisiau parhau i’w defnyddio a’i hybu yn y dyfodol."
Datblygwyd y dystysgrif sgiliau iaith er mwyn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr a staff i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif ers ei sefydlu.
Cyflwynwyd y Dystysgrif am y tro cyntaf yn 2013 ac mae’n cydnabod sgiliau llafar ac ysgrifenedig gan roi tystiolaeth gadarn i ddangos i gyflogwyr o allu unigolion i weithio yn y Gymraeg.
Dywedodd Bethan Griffiths, Tiwtor y Dystysgrif Sgiliau iaith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
“Rydym ni’n hynod o falch o lwyddiant arbennig Siôn, yn ennill Gwobr Norah Isaac eleni. Dyma’r eildro i fyfyriwr o Brifysgol y Drindod Dewi Sant gipio’r wobr, sy’n cydnabod cyfraniad arloesol Norah Isaac i fyd addysg Gymraeg. Gyda Norah ei hun yn gyn-ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, mae’n hyfryd iawn bod y wobr yn cael ei hennill eleni gan fyfyriwr sydd ar fin dechrau ar ei yrfa ym myd addysg. Llongyfarchiadau gwresog i ti Siôn a dymuniadau gorau i’r dyfodol.”
Mae’r Dystysgrif Sgiliau Iaith yn gyfle gwych i ennill cymhwyster proffesiynol yn y Gymraeg ac mae ar gael i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: [email protected]