CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Dyfarnu Ysgoloriaeth Cyfieithu ar y Pryd i Richard Timothy

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru wedi penderfynu dyfarnu Ysgoloriaeth Cyfieithu ar y Pryd, gwerth £1000 i Richard Timothy eleni.

Mae Richard, sy’n gweithio i Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel Uwch Gydymaith y Gymraeg yn edrych ymlaen i gychwyn y cwrs ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mis Ionawr, 2026. Bydd yn dechrau ar Fodwl 1 ynghyd a myfyrwyr eraill ddiwedd y mis.

Mynegodd Richard;

“Mi fyddai’r cwrs a’r cymhwyster nid yn unig yn rhoi’r gallu a’r hyder i fi’n hun o ran cyfieithu ar y pryd, ond hefyd caniatau imi ymateb yn bositif ac yn gadarnhaol i geisiadau yn fewnol, ac efallai caniatau imi fod o gymorth i rai o’n rhanddeiliaid sydd mewn sefyllfa debyg.”

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu’r cymhwyster Ôl-Raddedig Cyfieithu ar y Pryd yma’n flynyddol o dan arweiniad Lynwen Davies.

Dyma’r unig gymhwyster ôl-radd o’i fath yng Nghymru. Mae’r Dystysgrif yn derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac yn derbyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gweithreda’r cwrs unigryw ac arloesol hwn, a ddarperir gan arbenigwyr a darlithwyr y Brifysgol, fel sylfaen gadarn i’r myfyrwyr lwyddo mewn maes sy’n angenrheidiol i gyrff cyhoeddus yn unol â gofynion Safonau’r Iaith Gymraeg. Cynigir y cyfle i fireinio’r sgiliau creiddiol ac i dderbyn profiadau euraidd yn y gweithle fel rhan o’r cymhwyster hwn, a hynny rhan amser ar y cyd â swydd llawn amser.

Dyfernir Ysgoloriaeth Cyfieithu ar y Pryd yn flynyddol gan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Sefydlodd y Gymdeithas y wobr hon yn 2022-23 er mwyn ateb y galw am fwy o gyfieithwyr ar y pryd.

Ychwanegodd Teleri Haf, Prif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru;

“Pleser ydy cael cynnig ysgoloriaeth eleni ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn y Dystysgrif Ȏl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd. Mae yna ddiffyg enbyd o gyfieithwyr ar y pryd ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am gynnig hyfforddiant cydnabyddedig ar gyfer unigolion sy’n dymuno mentro i’r maes. Dymunwn y gorau i Richard ac edrychwn ymlaen at ei groesawu’n aelod o’r Gymdeithas yn y dyfodol.”

Os hoffech ddysgu mwy am y cymhwyster neu os hoffech ymuno gyda’r myfyrwyr ddiwedd Ionawr 2026, mae amser o hyd, anfonwch e-bost i [email protected]