Bu Rhagoriaith, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ar daith o gwmpas Cymru yn 2019, yn hyrwyddo cwrs unigryw sy’n cael ei gynnig gan y Brifysgol, sef Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd.
Dyma’r unig hyfforddiant yn y maes hwn sydd ar gael yng Nghymru ac fe'i gefnogir yn llawn gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Dywedodd Dr Lowri Lloyd, “Mae’r cwrs ei hun yn gyfle unigryw i gyfieithwyr a darpar gyfieithwyr ennill cymhwyster galwedigaethol, ymarferol mewn Cyfieithu ar y Pryd. Ry ni’n ymwybodol fod nifer o gyfieithwyr testun â diddordeb mewn Cyfieithu ar y Pryd, ond efallai yn ansicr ynghylch mynd ati i feistroli’r grefft, ac felly dyma fynd ati i drefnu sesiynau blasu ar draws Cymru er mwyn rhoi cyfle i gyfieithwyr gael profiad mewn awyrgylch anffurfiol, o dan hyfforddiant. Gyda galw cynyddol am gyfieithwyr ar y pryd yn sgil y Safonau Iaith Gymraeg, mae’n gyfle gwych i ni fel darparwr ac i unigolion sydd eisiau ennill sgil newydd neu arallgyfeirio o ran eu gyrfa efallai. Mae’r ymateb wedi bod yn wych hyd yma, gyda degau o bobl wedi archebu lle ar y sesiynau.”