Bydd Jeremy Miles MS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn lansio’n Tystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener am 2:30pm.
Yn ymuno ag ef fydd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones fydd yn darlithio ar y Dystysgrif; Begotxu Olaizola, ar ran Cadair Breswyl Alan R King mewn Sosioieithyddiaeth, Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg; Catrin Llwyd, cyn-ymarferydd a thiwtor ar y Dystysgrif, a Dr Lowri Lloyd, Rhagoriaith, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r Dystysgrif hon yn gymhwyster arloesol sy’n ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae uwchsgilio’r gweithlu yn allweddol er mwyn rhoi hyder iddynt ymateb i heriau amrywiol ein cymunedau a gweithleoedd dwyieithog. Gwerth cymhwyster fel hyn yw ei ymarferoldeb mewn maes sy’n datblygu’n gyflym ac yn allweddol bwysig er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr. Er mwyn cyflawni nod y Llywodraeth erbyn 2050, mae’r cymhwyster hwn yn un delfrydol i unigolion sy’n gweithio ym maes polisi a chynllunio iaith boed hynny yn y sector gwasanaethau cyhoeddus, y sector iechyd, y trydydd sector neu’n unigolion sydd newydd raddio ac yn chwilio am gymhwyster proffesiynol ymarferol.
Dyma gyfle unigryw i astudio pwnc cyfoes a pherthnasol ar-lein a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n manteisio ar arbenigedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac arbenigwyr rhyngwladol y maes a’r diwydiant mewn seminarau rhyngweithiol, trafodaethau grŵp, astudiaethau achos a gweithdai ymarferol.
Rhinwedd cymhwyster fel hyn yw’r cyfleuon ymarferol mae’n cynnig i ymarferwyr sy’n ymwneud â’r maes yn eu gwaith bob dydd, a’r cyfle i rwydweithio a rhannu profiadau gydag ymarferwyr o fewn y maes a thu hwnt yn ystod y cwrs ac ar ei ôl, i rannu arfer dda a chynnig cefnogaeth.
Wrth edrych ymlaen at y lansiad, dywedodd Kara Lewis, Rheolydd y Rhaglen fod y Dystysgrif hon
“yn cynrychioli ein hymrwymiad ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu addysg o’r radd flaenaf yn y maes hollbwysig hwn. Credwn y bydd y cwrs hwn yn ymbweru unigolion i ragori ym maes polisi a chynllunio iaith gan arwain at ddatblygiadau gyrfaol, tyfiant personol arwyddocaol a chyfraniadau gwerthfawr a strategol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr.”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae’n bleser cael bod yn bresennol wrth lansio cymhwyster sydd yn mynd i gyfrannu at greu to newydd o gynllunwyr iaith ac arweinwyr polisi yng Nghymru. Mae gwir angen hynny wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu’r nod gyffrous o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae hwn yn faes all gynnig gyrfaoedd difyr ond dylanwadol hefyd i unigolion a bydd y dystysgrif hon yn sicrhau bod gyda ni weithlu cymwys ar gyfer y gwaith. ”
Nodyn i’r Golygydd
Cynhelir y lansiad ar Stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddydd Gwener am 2:30 ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Darperir lluniaeth ysgafn.
Am fwy o wybodaeth am y Dystysgrif neu’r lansiad cysylltwch â ni: [email protected]
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: [email protected]
Ffôn: 07384 467076