CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Y Drindod Dewi Sant yn sefydlu canolfan i arwain ar ddarpariaeth hyfforddiant iaith

Yn Hydref 2018, lansiodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ganolfan iaith i gynnig amrediad o wasanaethau’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.

Gyda thîm o arbenigwyr iaith profiadol, bydd Rhagoriaith, sef canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, yn cynnig gwasanaethau hyfforddiant iaith ar lefel fasnachol ac yn fewnol i staff a myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.

Mae Rhagoriaith eisoes yn darparu ac yn cymedroli cyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol i athrawon a chynorthwywyr dosbarth dan nawdd Llywodraeth Cymru. Mae’r cyrsiau hyn yn rhan allweddol o gynlluniau strategol y Llywodraeth ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu cyflwyno’r Gymraeg oddi fewn i ysgolion Cymru.

Mae Rhagoriaith yn cynnig hyfforddiant iaith i sawl sector gwaith allweddol arall. Yn ddiweddar, bu’n awduro ac yn treialu cyrsiau yn y sector blynyddoedd cynnar ar gyfer gofalwyr plant a gweithwyr mewn meithrinfeydd ar draws Cymru. Bydd hefyd yn cynnig hyfforddiant iaith i weithwyr y sector Gofal Cymdeithasol ar y cyd â Choleg Cambria ar lefel genedlaethol dros yr wythnosau nesaf.

Mae Rhagoriaith hefyd yn cynnig dau gwrs cwbl unigryw ym maes Cyfieithu ar y Pryd ac Is-deitlo. Mae’r dystysgrif ôl-raddedig ym maes Is-deitlo yn cael ei chynnig trwy bartneriaeth â S4C ac yn ddatblygiad cyffrous gyda Chanolfan S4C Yr Egin wedi agor ei drysau yng Nghaerfyrddin. Yn yr un modd, mae’r dystysgrif ôl-raddedig ym maes Cyfieithu ar y Pryd yn allweddol i ddatblygiad y Gymraeg fel iaith fyw y gall unigolion fynnu ei defnyddio, a dyma’r unig hyfforddiant yng Nghymru sy’n cael ei gydnabod gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Yn fewnol, mae Rhagoriaith eisoes yn gweithredu rhaglen o gyrsiau iaith i staff y Brifysgol trwy gynnig rhaglen Cymraeg Gwaith i’w staff a bydd ganddi rôl allweddol yn y gwaith o weithredu Safonau Iaith y sefydliad dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Dywedodd Dr Lowri Lloyd, “Mae’r cyfle hwn yn un cyffrous iawn ac yn un sy’n digwydd ar adeg arwyddocaol gyda nod y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae yna gyfleoedd i’r Ganolfan gefnogi’r weledigaeth honno’n uniongyrchol ac edrychwn ymlaen at yr her ac at gydweithio gydag ystod mor eang â phosibl o bartneriaid er mwyn ceisio cyflawni’r nod.”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, “Wrth sefydlu Rhagoriaith, mae’r Brifysgol yn cadarnhau ei hymrwymiad i’r iaith Gymraeg, ac i dwf addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd Rhagoriaith yn ymgymryd â rôl allweddol wrth hyfforddi staff y Brifysgol yn unol â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg. Bydd hefyd yn cynnig cefnogaeth ieithyddol i nifer o gynlluniau gradd a rhaglenni hyfforddi allweddol ar draws pob campws.”

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Brifysgol, “Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o’r prif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae ein enw da yn y maes hwn wedi denu nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymraeg atom i gydweithio a chydleoli. Mae ein strategaeth yn un gyffrous ac mae’n cynnig rhychwant o gyfleoedd i unigolion, cwmnïau a sefydliadau i ddatblygu eu gallu neu eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gan Rhagoriaith rol allweddol i’w chwarae yn y gwaith o uwchsgilio’r gweithlu yng Nghymru”.