Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi bod Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, Rhagoriaith, yn sefydlu partneriaeth gyda chwmni sydd newydd ennill cytundeb gwasanaeth is-deitlo newydd S4C – Cyfatebol.
Sefydlir y bartneriaeth yn sgil datblygiad Tystysgrif Ôl-raddedig y mae’r Brifysgol wedi ei chynllunio ym maes Is-deitlo, sef yr unig gymhwyster proffesiynol cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o fewn y maes.
Bydd y bartneriaeth rhwng Rhagoriaith a Cyfatebol yn dod â’r diwydiant a’r cyfleoedd am hyfforddiant yn y maes at ei gilydd, ac yn benodol yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr gael mynediad i’r proffesiwn a phrofiad o’r maes.
Mae’r bartneriaeth yn cryfhau’r berthynas gadarnhaol sydd eisoes yn bodoli rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r diwydiant.
Esboniodd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaith, “Daeth y syniad o gynnig cymhwyster o’r math hwn oddi wrth y diwydiant yn wreiddiol. Cafwyd nifer o drafodaethau gyda nifer o brif gwmnïau is-deitlo a darlledu yng Nghymru, a chafwyd cefnogaeth lwyr i’r cymhwyster. Ry’ ni’n hynod falch felly o allu sefydlu partneriaeth gyda chwmni Cyfatebol, sydd â swyddfa ar gampws y Brifysgol, yn Yr Egin. Rydym yn hyderus iawn y bydd y berthynas yn ein galluogi ni i gwrdd â’r galw cynyddol sydd o fewn y dwydiant clywedol am is-deitlwyr proffesiynol”.
Cwmni Cyfatebol sydd wedi ennill y cytundeb diweddar gydag S4C i ddarparu gwasanaeth is-deitlo Saesneg a Chymraeg am y pedair blynedd nesaf. Mae gan y cwmni swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a Chaerfyrddin, ac mae tîm is-deitlo’r cwmni yn meddu ar dros ugain mlynedd o brofiad is-deitlo ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Bydd y bartneriaeth hon yn agor cyfleoedd i fyfyrwyr ennill profiadau hynod gyffrous oddi fewn i’r proffesiwn ei hun.
Dywedodd Owain Saunders Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfatebol: “Rydym ni fel cwmni yn gyffrous iawn i sefydlu’r bartneriaeth hon gyda’r Brifysgol, a Rhagoriaith yn benodol. Bydd y bartneriaeth yn darparu cyfleoedd gwirioneddol i ni godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth is-deitlo, y diwydiant a’r proffesiwn yn gyffredinol ynghyd â’r hyfforddiant proffesiynol sydd bellach ar gael drwy’r Drindod Dewi Sant”.
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol yn y Brifysgol, “Mae’r datblygiad hwn yn un arbennig o amserol ac yn gwireddu’r math o gydweithio a fwriadwyd wrth sefydlu Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Rwy’n hyderus y bydd y bartneriaeth yn un ffyniannus ac yn gosod cynsail cadarn ar gyfer datblygu sawl partneriaeth gydweithredol arall yn y dyfodol.”
Gall Cyfatebol a Rhagoriaith gynnal gweithdai blasu Is-deitlo mewn
cydweithrediad â S4C i hyrwyddo’r proffesiwn. Bydd y gweithdai yn gyfle
i rai sydd â diddordeb yn y maes gael profiad ymarferol a blas
o’r hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu ar Dystysgrif Is-deitlo’r
Brifysgol. Ar yr un pryd, gall unigolion gael profiad
ymarferol o is-deitlo byw gyda staff Cyfatebol, gyda'r gobaith o ddenu carfan newydd o is-deitlwyr ar gyfer y diwydiant i’r dyfodol.