Mae Margaret Bowen a’i merch Sioned bellach yn aelodau o Uned Gyfieithu’r Brifysgol, gan ddod â phrofiad, brwdfrydedd ac angerdd dros y Gymraeg i’w gwaith bob dydd.
I Margaret, un o atyniadau mwyaf y maes cyfieithu yw’r amrywiaeth a’r her sy’n dod gyda’r swydd. Meddai:
“Dw i wrth fy modd yn ymchwilio er mwyn dod o hyd i’r termau cywir a dadansoddi ystyr geiriau mewn gwahanol feysydd. Mae pob dydd yn wahanol.”
Mae Sioned, ar y llaw arall, yn mwynhau’r her o gyfieithu ar y pryd. Dywedodd:
“Yn bersonol fi’n dwlu ar wneud gwaith Cyfieithu ar y Pryd, mae’n gyffrous iawn ac mae’n her i gyfieithu mewn amrywiaeth o gyd-destunau, ac yn aml y geiriau mwyaf syml sy’n fy maglu! Geiriau fel diwylliant, amserlen neu enwau llefydd! Mae gofyn i gyfieithwyr fod yn arbenigwyr mewn sawl maes felly mae’r amrywiaeth o destunau ac ymchwil y mae angen ei wneud yn cadw’r swydd yn un hynod ddiddorol.”
Er mai dyma’r tro cyntaf i’r ddwy weithio gyda’i gilydd yn broffesiynol, nid yw’r profiad o gydweithio yn rhywbeth newydd iddynt. Maent wedi cydweithio ers blynyddoedd ar wahanol fentrau cymunedol fel Eisteddfod Llanfihangel-ar-arth a’r Plwyf, a Phwyllgor Cae Chwarae Parc y Glyn, ac ar y fferm deuluol, gan ddatblygu perthynas waith naturiol dros amser.
Mae’r ddwy wedi arfer rhannu swyddfa fechan gartref lle maent yn helpu ei gilydd gyda thermau neu gystrawennau lletchwith, a brawddegau anodd. Serch hynny, roedd gweithio o fewn yr un tîm yn y Brifysgol yn brofiad newydd gan fod pob sgwrs bellach yn berthnasol i’r ddwy ohonynt. Ychwanegodd Sioned:
“Un peth oedd yn rhyfedd pan ro’n i yn y swyddfa ar y campws ac mewn cyfarfodydd tîm, oedd a yw’n broffesiynol i fi alw mam yn mam?”
Doedd y ddwy byth yn meddwl fydda nhw’n gweithio gyda’i gilydd yn broffesiynol. Meddai Sioned:
“Roedd mam yn arfer bod yn athrawes ac felly doeddwn i byth yn disgwyl i’n gyrfaoedd fod yr un peth! Mae gafael mam ar y Gymraeg yn wych felly roedd hi’n gefn mawr i fi wrth i mi ddechrau cyfieithu ar ôl gadael y brifysgol.“
Daeth Margaret i’r maes cyfieithu ar ôl gweithio fel athrawes gynradd, lle bu’n cyfieithu gwaith yn ddyddiol ar gyfer ei disgyblion. Sylweddolodd bryd hynny ei bod yn mwynhau’r gwaith yn fawr, a phenderfynodd newid gyrfa. Yn y cyfamser, astudiodd Sioned Gymraeg Broffesiynol yn y brifysgol ac, er nad oedd yn siŵr i ddechrau a oedd cyfieithu yn addas iddi, datblygodd ei diddordeb yn raddol, yn enwedig ym maes cyfieithu ar y pryd.
Ychwanegodd Margaret:
“Dw i bob amser yn rhyfeddu pan dw i’n gweld Sioned yn cyfieithu ar y pryd, byddwn i’n rhy nerfus i roi siot arni! Mae’n mwynhau sut gymaint a dw i’n edmygu ei brwdfrydedd am y grefft.”
Er bod eu diddordebau o fewn y maes ychydig yn wahanol, maent yn dysgu llawer oddi wrth ei gilydd. Mae’r ddwy wedi gweithio i gwmnïau cyfieithu gwahanol yn y gorffennol ac felly’n dod â phrofiadau a dulliau gwahanol i’w gwaith presennol.
Meddai Margaret:
“Mae’n braf cael cwmni rhywun sy’n deall gofynion y gwaith, rydyn ni’n dod ymlaen yn dda iawn a bron byth yn mynd ar nerfau ein gilydd! Rydyn ni’n cael digon o amser ar wahân, fel arfer, rydyn ni’n mynd i’r swyddfa ar ddiwrnodau gwahanol ac mae dyletswyddau cyfieithu ar y pryd Sioned yn golygu bod ei gwaith yn wahanol iawn rhai diwrnodau i fy ngwaith i.”
Mae Margaret yn dweud mai’r hyn a’i denodd i PCYDDS oedd ei phrofiad cadarnhaol blaenorol gyda’r Brifysgol.
“Ces i’r argraff fod y Brifysgol yn lle cartrefol a chyfeillgar, felly pan welais i fod swydd wag am gyfieithydd, penderfynais i wneud cais a dw i’n hapus iawn yn gweithio yn yr Uned Gyfieithu.”
Yn ôl Sioned, roedd hi wedi clywed llawer o bethau cadarnhaol am y tîm cyn ymuno.
“Roedd mam wastad yn sôn am ba mor hyfryd yw’r tîm cyfieithu gyda phawb yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd gweithio â nhw. Yn ogystal, mae tîm Gwasanaethau’r Gymraeg ehangach wedi bod yn groesawgar iawn ac mae ymdeimlad ein bod yn rhan o dîm. Cefais wahoddiad i ganu yng Nghôr y Gangen ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar ddiwedd fy wythnos gyntaf - roedd hyn yn gadarnhad i mi fod y Drindod yn lle gwych i weithio!”
Yn eu barn nhw, un o gryfderau mwyaf yr Uned Gyfieithu yw profiad ac arbenigedd y staff.
“Mae pawb mor barod i helpu ac mae’n wir yn bleser gweithio yma,” meddant.
Er bod rhai pobl yn synnu bod mam a merch yn gweithio gyda’i gilydd, mae’r ddwy yn dweud bod eu profiad o gydweithio ers blynyddoedd, boed ar y fferm neu mewn gweithgareddau cymunedol, wedi paratoi’r ffordd yn berffaith.
Er bod bywyd gwaith yn brysur, maent hefyd yn cadw cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd personol. Mae Sioned yn aelod gweithgar o glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau creadigol, tra bod y ddwy’n mwynhau dechrau’r diwrnod allan yn rhedeg yn Llandysul cyn troi at gyfieithu.
I’r ddwy, mae gweithio gyda’i gilydd nid yn unig yn gyfle i rannu gyrfa, ond hefyd yn ffordd o gryfhau eu perthynas. Meddai Sioned:
“Dw i wastad wedi edrych fyny at Mam, mae ganddi afael dynn iawn ar y Gymraeg ac mae’n hynod broffesiynol yn ei gwaith. Mae gen i 3 brawd ac felly mae ein perthynas wastad wedi bod yn agos ac mae mwy fel ffrind i fi rhan fwyaf o’r amser na Mam!”
Ac i Margaret, mae’r ateb yn syml:
“Dw i’n hoffi treulio amser gyda Sioned, mae hi’n gwmni da, ac mae’n gydwybodol yn ei gwaith bob amser. Mae’r ddwy ohonom angen tawelwch i gyfieithu ac rydyn ni’n hollol hapus i fod yn yr un ystafell heb siarad am oriau. Wedyn rydyn ni’n cael egwyl dros baned a rhoi’r byd yn ei le!”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: [email protected]
Ffôn: 07449 998476