CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

JAZZ LANGDON YN ENNILL GWOBR DYSGWR Y FLWYDDYN

Mae Jazz Langdon, cyn-fyfyrwraig ar gwrs Cynllun Sabothol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i choroni’n Ddysgwr y Flwyddyn fel rhan o ŵyl Eisteddfod Amgen 2020.

Yn hanu o ardal Arberth yn Sir Benfro, daeth Jazz i’r Drindod Dewi Sant ym mis Medi 2018 fel un o fyfyrwyr cwrs dysgu Cymraeg Rhagoriaith, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol – cwrs ar gyfer athrawon sy’n dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Ychydig iawn o Gymraeg oedd ganddi pan ddechreuodd hi’r cwrs Cynllun Sabothol ond wedi blwyddyn yn dysgu’r iaith, mae hi bellach yn rhugl ac wedi derbyn yr anrhydedd o deitl Dysgwr y Flwyddyn 2020.

“Dw i wedi teimlo’n falch i fod yn Gymraes erioed, ond weithiau roeddwn i’n teimlo’n euog am na allwn i siarad yr iaith hefyd,” meddai Jazz sy’n athrawes yn Ysgol Tavernspite, Sir Benfro.

“Dw i’n gallu gweld pa mor bwysig mae’r Gymraeg, yn enwedig gyda phlant yn fy ardal i, sy ddim yn clywed llawer o Gymraeg o’u cwmpas nhw. Mae rhaid i ni, fel athrawon, eu hysbrydoli nhw a dangos y cyfleoedd mae siarad Cymraeg yn cynnig.

“Gadawodd ein Cydlynydd Cymraeg ddwy flynedd yn nôl a doedd neb arall yn ein hysgol gyda sgiliau Cymraeg, ac roeddwn i’n poeni basai’r safonau’n cwympo ac felly eisiau gwneud rhywbeth i helpu,” atega Jazz. “Felly, gwirfoddolais i fynd ar y cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin fel rhan o’r cynllun sabothol ar gyfer athrawon.

“Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd personol a fy ngwaith hefyd. Mae Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau’n barod yn fy ngyrfa. Dw i wedi symud i swydd newydd yn Ysgol Tavernspite yn Sir Benfro, ac i fod yn onest, dw i’n meddwl taw’r prif rheswm fy mod i wedi llwyddo oedd fy Nghymraeg a nawr, fi ydy’r cydlynydd Cymraeg felly dw i’n gyfrifol am ddatblygiad y pwnc a chefnogi’r athrawon eraill.

“Cyn i fi fynd ar y cwrs, roedd agwedd y plant yn eitha’ negyddol tuag at y Gymraeg ond nawr, achos mod i’n gwneud y gwersi’n hwyl, maen nhw’n gofyn yn aml ‘ydyn ni’n gwneud Cymraeg nawr?’ sy’n hyfryd tu hwnt i fi weld!”

Dysgodd Jazz Gymraeg drwy raglen Cynllun Sabothol a gynigir gan Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, Abertawe a’r Drenewydd dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Rhaglen o gyrsiau iaith ar gyfer athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth yw’r Cynllun Sabothol, a’i nod yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r cyrsiau’n cael eu rhedeg gan ganolfan Rhagoriaith o fewn Y Drindod Dewi Sant.

Mae Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddydd Canolfan Iaith Rhagoriaith yn falch iawn o ddatblygiad Jazz ac yn ymfalchio’n fawr yn ei llwyddiant.

“Roedd Jazz wedi llwyr ymroi i’r cwrs ac aeth yr ail gam drwy ddarllen llyfrau heriol, gwrando ar y radio a gwylio S4C yn ddyddiol er mwyn llwyddo,” meddai Dr Lowri Lloyd. “Ysbrydolodd ac anogodd ei chyd-ddysgwyr ac erbyn hyn, mae hi’n hollol rugl ac yn dysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cafodd ei geni a’i magu yn ne Sir Benfro ac roedd hi’n edifar nad oedd wedi cael unrhyw gyswllt â’r Gymraeg cyn iddi ddechrau ar ei thaith i ddysgu’r iaith, lai na dwy flynedd yn ôl,” atega.

“Roedd Jazz wedi dysgu drwy gyfrwng y Saesneg drwy ei gyrfa ond ar ôl cwblhau’r cwrs Cymraeg mewn Blwyddyn, cafodd hi’r cyfrifoldeb dros ddysgu’r Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 oedd yn cynnwys 400 o blant.

“Yn ystod y cyfnod clo, bu’n paratoi adnoddau cyfoes a dyfeisgar i ddysgu’r Gymraeg i holl ysgolion Sir Benfro. Yn bendant, bydd disgyblion y Sir sy’n dod i gyswllt â Jazz a’u hadnoddau ar eu hennill,” atega Lowri.

“Daeth Jazz ar y cwrs am resymau proffesiynol yn y man cyntaf ond mae hi wedi ymroi’n llwyr a chanoli’r iaith i’w bywyd personol mewn cyfnod o ddwy flynedd. Nid yn unig iaith mae Jazz wedi dysgu, ond mae hi wedi ymroi i fywyd a thraddodiadau Cymreig. Mae hi mor angerddol am y Gymraeg ac, heb amheuaeth, mae Jazz wedi cyflawni cymaint mewn ychydig o amser ac yn esiampl glodwiw o hyrwyddwr y Gymraeg.”

Felly, wedi dysgu’r iaith mewn byr o amser ac wedi llwyddo ennill y fath glod, pa gyngor sydd gan Jazz ar gyfer rheiny sy’n ystyried dysgu Cymraeg?

“Cofiwch, mae dysgu Cymraeg yn daith,” meddai. “Fydd hi ddim yn hawdd trwy’r amser ond bydd hi’n werth yr ymdrech!”

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r cyrsiau Cynllun Sabothol a gynigir gan Rhagoriaith ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ewch i wefan https://rhagoriaith.cymru/

Rhagoriaith sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol dan nawdd y Llywodraeth yn Ne Orllewin a Chanolbarth Cymru, yn ogystal â chymedroli’r holl gyrsiau ym mhob rhanbarth yn genedlaethol.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ar 01267 676908 / 07449 998476 [email protected]