CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Dathlu Sêr y Cwrs Sabothol ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau myfyrwyr y Cwrs Sabothol eleni drwy gynnal sesiwn arbennig ar stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd. Bydd y digwyddiad yn uwcholeuo effaith gadarnhaol y cwrs ar yrfaoedd athrawon a’u hysgolion. Gwelir datblygu athrawon hyderus sy’n ysbrydoli cenedlaethau o siaradwyr newydd drwy fanteisio ar ddulliau addysgu effeithiol a hwyl.

Yn ystod y digwyddiad, a gynhelir ar stondin y Brifysgol rhwng 2 a 3yp ddydd Mercher, Mai 28ain, bydd taflen ‘Top Tips’ yn cael ei lansio – yn llawn syniadau defnyddiol gan gyn-fyfyrwyr y cwrs i gefnogi athrawon sy’n dymuno defnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gwrdd â thiwtoriaid y cwrs, myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, i drafod y llwybr proffesiynol unigryw a gwerthfawr hwn.

Bydd dwy gyn-fyfyrwraig o’r Cwrs Sabothol Rhian Ashton a Sarah Day yn arwain y sesiwn, gan rannu eu profiadau personol a’u cyngor ar gyfer dysgu ac addysgu’r Gymraeg a sut mae atgyfnerthu agwedd positif tuag ati.

Cafodd Rhian ei hyfforddi ar y cwrs yn 2021-22, ac er bod y cyfnod clo wedi bod yn heriol, manteisiodd ar bob cyfle i ddatblygu ei hyder ieithyddol. Ers hynny, mae hi wedi dychwelyd i’r ystafell ddosbarth ac yn awr yn gweithio fel Swyddog Datblygu Athrawon yn ardal Castell Nedd Port Talbot, yn arwain ar fentrau Cymraeg Campus a’r Siarter Iaith a Chynefin.

Bydd Sarah, a fu ar y cwrs yn 2022-23, hefyd yn cyfrannu at y sesiwn drwy rannu cyfoeth o syniadau ymarferol i gefnogi’r Siarter Iaith a datblygu ymdeimlad o falchder ymhlith y plant tuag at y Gymraeg. Meddai Sarah:

“Rydyn ni’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi gydag Eisteddfod fawr, cynnal Wythnos Gymraeg a pherfformio barddoniaeth. Rydw i wedi sefydlu sawl gweithgaredd i annog plant i ddefnyddio’u Cymraeg tu hwnt i’r dosbarth, fel ein siop Gymraeg a gemau’r buarth. Mae’n bwysig hefyd fod y Gymraeg yn estyn i gartrefi’r plant. Roedd gwneud y Cwrs Sabothol wedi fy ngalluogi i gyflawni’r holl bethau hyn a mwy gyda hyder.”

Mae carfan newydd o fyfyrwyr wedi dechrau’r Cwrs Sabothol Uwch ar-lein a’r Cwrs Sabothol Canolradd ers y Pasg, tra bod y criw a gwblhaodd eu hastudiaethau cyn y Pasg yn edrych ymlaen at raddio ym mis Gorffennaf.

O dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae’r Cwrs Sabothol yn parhau i drawsnewid profiadau athrawon ar hyd a lled Cymru, gan gynnig sgiliau, hyder ac ysbrydoliaeth i ddysgu ac addysgu drwy’r Gymraeg.

Meddai Jeni Price, Rheolwr Rhaglen y cyrsiau Sabothol yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae dathlu llwyddiannau ymarferwyr y Cynllun Sabothol Cenedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn hollbwysig i ni fel darparwr. Mae'n gyfle i ni rannu sut y mae'r cynllun yn sicrhau bod athrawon ag ychydig o sgiliau yn y Gymraeg, yn medru dychwelyd i’w hysgolion yn athrawon iaith medrus a chyfrannu’n strategol at ddatblygu’r Gymraeg ar draws yr ysgol yn unol â gofynion Bil Y Gymraeg ac Addysg. Wrth i ni baratoi at weithredu'r Bil newydd hwnnw, ry'n ni'n falch iawn yn y Drindod Dewi Sant i ddathlu cyfraniadau'r athrawon fydd yn gwbl greiddiol i gyflawni ei amcanion.

Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i’r ddwy athrawes fydd yn siarad yn y digwyddiad ac yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi ei gyflawni ers dychwelyd i'w hysgolion.”

Nodyn i'r golygydd;

Cynhelir ar ddydd Mercher, 28ain o Fai am 2yp ar Faes Eisteddfod yr Urdd, stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.