CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Cynnig ar Gyfieithu yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn

Heddiw, ddydd Mawrth 26 Mai, bydd Cyngor Sir Ynys Môn ar y cyd â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn cynnal sesiwn ‘Cynnig ar Gyfieithu’ ar stondin y Cyngor Sir yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Nod y sesiwn fydd rhoi cyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar gyfieithu ar y pryd drwy ddefnyddio penset VR, dysgu mwy am gyfieithu fel swydd a chael hwyl gyda’r Gymraeg.

Nododd Arwel Wynn Owen, Rheolwr Gwasanaeth Cyfieithu Cyngor Môn, “Mae’r sesiwn hon yn gyfle i blant a phobl ifanc gael hwyl wrth geisio cyfieithu ar y pryd, holi mwy am yrfaoedd yn y maes cyfieithu a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y Gymraeg.”

Meddai Lynwen Davies o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, “Mae’n braf medru cydweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni er mwyn tynnu sylw at y grefft o gyfieithu ar y pryd. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig Tystysgrif Ôl-radd mewn Cyfieithu ar y Pryd, ac mae’n rhaglen unigryw yn yr ystyr mai dyma’r unig gymhwyster ôl-radd o’i fath yng Nghymru. Mae’r Dystysgrif yn un sy’n derbyn cefnogaeth gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru a hefyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Meddai Teleri Haf, Prif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: “Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn falch iawn o gydweithio â Chyngor Môn a Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i drefnu’r digwyddiad arbennig hwn. Mae’r Gymdeithas yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni, ac rydym yn awyddus i fuddsoddi yn nyfodol y grefft drwy gyflwyno cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i bobl ifanc.

Ychwanegodd Manon Cadwaladr, Cadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: “Yn aml, mae cyfieithu’n cael ei weld fel gwaith unig, diflas ac anweledig, ond mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i herio’r syniad hwnnw a dangos pa mor fywiog, egnïol a chymdeithasol y gall y proffesiwn fod.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg ac Iaith Gymraeg Cyngor Ynys Môn, “Mae cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith yn un o’n hamcanion strategol fel Cyngor ac mae’n braf gweld plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu mwy am wneud hynny yn y weithgaredd hwyliog hon.”

Bydd y Brifysgol yn dod â phensetiau VR i Stondin Cyngor Sir Ynys Môn (lleoliad N4 ar y maes) pnawn dydd Mawrth yr Eisteddfod am 2 o’r gloch, er mwyn ceisio rhoi blas o’r profiad o fod mewn ystafell drochi, felly dewch draw i weld y dechnoleg ar waith.