Mae’r cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn dychwelyd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ei newydd wedd fis Medi.
Manteisia’r Dystysgrif ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r cymhwyster arloesol hwn yn ymateb i agenda ieithyddol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cynigir cyfuniad o brofiadau academaidd ac ymarferol er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o brif gysyniadau’r maes yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan ddarparu gwybodaeth gyfoes ac angenrheidiol ynghyd â phrofiad cymhwysol.
Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio ym maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned megis swyddogion iaith, cynllunwyr iaith, swyddogion y Llywodraeth, llunwyr polisi a gweithwyr ieuenctid. Bydd hefyd yn darparu sail gadarn i fyfyrwyr graddedig sydd eisiau datblygu gyrfa sy’n ymwneud â dwyieithrwydd neu amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig.
Cynigir cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain. Rhinwedd bellach y dystysgrif hon yw ei bod yn denu unigolion o alwedigaethau amrywiol sy’n cynnig safbwyntiau eang a chyfoes. Dyma gyfle i unigolion ddatblygu’n broffesiynol a magu hyder yn eu gweithleoedd mewn maes sy’n ehangu ac yn dod yn fwyfwy strategol bwysig.
Dywedodd Kara Lewis, Rheolwr y Dystysgrif:
“Bydd angen sicrhau arbenigedd galwedigaethol ym maes cynllunio ieithyddol er mwyn gwireddu gweledigaeth y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, a hyrwyddo cydraddoldeb ieithyddol o fewn y sector gyhoeddus, y sector breifat, y byd addysg a mwy, mae angen dealltwriaeth o strategaethau effeithiol, ymarferol a grymus. Dyma gymhwyster proffesiynol sy’n cyplysu’r gweithgaredd ymarferol cyfoes â sylfeini academaidd damcaniaethol y maes cynyddol bwysig hwn.”
Manteisia’r cwrs ar ddulliau dysgu cyfunol sy’n caniatáu mynediad i unigolion ledled y wlad. Cynigir cyfuniad o siaradwyr gwadd rhyngwladol, seminarau a thiwtorialau, gwaith darllen, a phortffolio ar sail gwaith maes. Mae modd i’r rheiny sy’n gweithio yn y maes eisoes, seilio’r portffolio ar eu gwaith presennol.
Un sydd wedi buddio o’r cymhwyster yw Elin Maher. Dywedodd:
“Heb amheuaeth, dyma’r hyfforddiant proffesiynol newidiodd cwrs fy ngyrfa. Wedi cymhwyso fel athrawes Ffrangeg ar ddechrau fy ngyrfa ac wedi dysgu fel athrawes uwchradd a chynradd, roedd camu i mewn i faes datblygu cymunedol gyda Menter Iaith Casnewydd yn newid byd ac yn agoriad llygad. Wrth weithio yn y gymuned i hyrwyddo’r Gymraeg mewn ardal fel Casnewydd, roeddwn yn dysgu am sefyllfa’r Gymraeg, ei dirywiad a’r cyffro o weld ei hadferiad. Rhaid oedd canfod hyfforddiant proffesiynol a fyddai’n rhoi’r cefndir, y dyfnder dealltwriaeth o wahanol gyd-destunau ieithyddol a chymdeithasol byd eang i gyfoethogi’r gweithio lleol.
“Roedd dysgu am fframweithiau adfer iaith a chael cyfle i’w gweld yn cael eu rhoi ar waith yn brofiad gwerthfawr iawn. Roedd modd i mi wella dealltwriaeth y rhai o’m cwmpas yn y gwaith hefyd a pha gamau i’w cymryd nesaf o ganlyniad i astudio modiwlau’r dystysgrif hon. Heb os, mae’r cynnwys yn eang ac yn hynod ddiddorol, mae’r addysgu’n gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd i drafod, i ddadlau ac i wneud cyfeillion oes, yn ddarlithwyr ac yn gyd-fyfyrwyr.”
Trafodir y prif ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf ac edrychir ar y modd y mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo’r Gymraeg, beth sy’n eu cymell a pha brosesau ac egwyddorion yr ymwneir â nhw. Edrychir hefyd ar sut y caiff defnydd o’r Gymraeg ei hyrwyddo gan unigolion a chymunedau Cymraeg eu hiaith, gan asiantaethau swyddogol ac eraill.
Er ei pherthnasedd i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig, mae i’r dystysgrif hon ffocws rhyngwladol y gellir elwa arno er budd y sefyllfa yn genedlaethol. Gwahoddir siaradwyr o Wlad y Basg a Llydaw er mwyn cynnig cyd-destun rhyngwladol ehangach.
Ychwanegodd Catrin Llwyd, cyn-fyfyrwraig y Dystysgrif, sydd bellach yn ymchwilio ei phrosiect doethurol arloesol ym maes cynllunio iaith:
“Roeddwn wedi bod yn gweithio yn y maes cynllunio iaith ers blynyddoedd, ond yn teimlo nad oedd hyfforddiant cynllunio iaith addas ar gael i roi hyder a sail academaidd i’m gwaith. Roedd y Dystysgrif yn gyfle gwych i ddysgu gan arbenigwyr, ac i fyfyrio ar fy ngwaith bob dydd. Fel cyn-fyfyriwr y Dystysgrif, braf fydd medru cyfrannu at yr addysgu y tro hwn.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: [email protected]
Ffôn: 07449 998476