Ar faes y Brifwyl yn Sir Gonwy fe lansiodd Rhagoriaith, Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, llwyfan cenedlaethol, Cyfieithu ar y Pryd Cymru, yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan AC.
Cyfieithuarypryd.cymru yw’r adnodd hyfforddi cyntaf o’i fath yng Nghymru a fydd yn darparu cefnogaeth i unigolion sy’n dymuno dysgu ac ymarfer y grefft o gyfieithu ar y pryd, ac fe’i ariannwyd trwy nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnig yr unig gymhwyster Addysg Uwch achrededig yng Nghymru ym maes Cyfieithu ar y Pryd. Dyma’r unig ddarpariaeth Cyfieithu ar y Pryd sy’n cael ei chymeradwyo, ei chefnogi a’i hyrwyddo gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Dywedodd Dr. Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Rhagoriaith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, “Mae’r sgil o gyfieithu ar y pryd yn un arbenigol ac mae hyfforddiant proffesiynol a chyfleoedd i ymarfer mewn amrediad eang o gyd-destunau yn allweddol. Mae’r llwyfan fel man cychwyn yn hyrwyddo’r grefft o gyfieithu ar y pryd. Y mae hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at broffesiynoli’r maes ymhellach. Mae’n hwyluso mynediad at ddeunyddiau ac at gyfarwyddiadau gan ymarferwyr profiadol er mwyn sicrhau bod cyfieithwyr ar y pryd y dyfodol yn cael eu meithrin a’u datblygu yn unol â’r safonau proffesiynol disgwyliedig.”
Yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nod y llwyfan yw hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg yng Nghymru, gan sicrhau cyflenwad parod o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd galluog a chymwysedig. Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan AC, “Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i weld y proffesiwn cyfieithu yn esblygu er mwyn sicrhau cyflenwad parod o gyfieithwyr proffesiynol ac ieithyddion graddedig â sgiliau modern. Dyna pam ein bod mor barod i ddarparu cyllid gwerth £60,000 dros ddwy flynedd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddatblygu’r llwyfan hyfforddi cyfieithu ar y pryd newydd. Mae’r wefan newydd yn ddatblygiad pwysig ac yn rhan arwyddocaol o’r darlun pan ddaw at ddatblygu’r proffesiwn cyfieithu. Mae cyfieithu yn rhan hollbwysig o’r darlun o ran y Gymraeg, a chyfieithu ar y pryd yn benodol o ran caniatáu i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol wrth siarad yn gyhoeddus, neu wrth dderbyn gwasanaethau. Mae’r llwyfan cyfieithu ar y pryd yn rhan o’r gwaith ehangach sy’n cael ei wneud i foderneiddio seilwaith ieithyddol y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod y maes yn symud yn ei flaen mewn modd strategol er budd siaradwyr Cymraeg ym mhobman ac o bob gallu.”
Mae’r llwyfan yn cartrefu clipiau ffilm, cyfarwyddiadau proffesiynol a chronfeydd termau. Mae’n cynnwys adran ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn y Dystysgrif Cyfieithu ar y Pryd yn y Brifysgol, yn ogystal ag adran sy’n agored i bawb roi cynnig ar y grefft a chael blas arni. Ategodd Dr Lowri Lloyd, “Rydym yn hyderus bod y llwyfan hwn yn ddatblygiad arwyddocaol i’r Gymraeg. Mae’n ehangu sylfaen sgiliau cyfieithwyr mewn ymateb i’r cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg ac mae iddo’r potensial i gael ei efelychu yn rhai o wledydd ieithoedd leiafrifol eraill Ewrop”.
Cafodd llwyfan Cyfieithu ar y pryd Cymru yn ei lansio’n swyddogol gan Gweinidog y Gymraeg ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddydd Mawrth, 6 Awst 2019.