CGC Logo - Rhagoriaith 1-1

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, y Farwnes Eluned Morgan, yn ymweld â’r Drindod Dewi Sant i weld cwrs arloesol yn cael ei addysgu

Ar Ddydd Gwener, 2 Chwefror 2018, bu’r Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn ymweld â champws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin er mwyn gweld cwrs Cymraeg arloesol i athrawon yn cael ei ddarparu.

Mae’r cwrs Cymraeg mewn Blwyddyn yn gwrs unigryw ar gyfer athrawon o ysgolion sy’n addysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Wedi ei ddarparu gan ddarlithwyr arbenigol Rhagoriaith – Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, mae’r athrawon sydd ar y cwrs wedi eu rhyddhau o’u dyletswyddau addysgu am flwyddyn gyfan er mwyn derbyn hyfforddiant iaith.

Mae’r cwrs yn rhan o arlwy’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg gyda’r Brifysgol ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cyrsiau Sabothol yn darparu cyfleoedd i athrawon a chynorthwywyr dosbarth i gael eu rhyddhau o’u dyletswyddau addysgu er mwyn derbyn hyfforddiant iaith am gyfnodau sy’n amrywio o dair i unarddeg wythnos o fewn tymor. Mae’r cwrs Cymraeg mewn Blwyddyn fodd bynnag, yn rhedeg dros y tri thymor ac yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â derbyn hyfforddiant iaith, mae’r athrawon yn cael cyfle i ymweld ag ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn cysgodi gwersi sy’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg, ynghyd â chyfle i ddychwelyd i’w hysgolion er mwyn cynllunio’n strategol y cynnydd sy’n cael ei wneud o’r Gymraeg. Ar ddiwedd y flwyddyn, y nod yw gweld yr athrawon yn dychwelyd i’w hysgolion gyda’r gallu a’r hyder i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, “Roedd hi’n bleser i groesawu’r Gweinidog i’r Brifysgol er mwyn gweld y cwrs yn cael ei addysgu. Mae’n fuddsoddiad sy’n dangos bod y Llywodraeth o ddifrif ynghylch cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac yn cyfrannu’n uniongyrchol hefyd at weithredu’r cwricwlwm newydd. Roedd yn gyfle ac yn fraint hefyd i’r athrawon ddangos y cynnydd y maen nhw wedi’i wneud hyd yma i’r Gweinidog.”

Dywedodd Eluned Morgan: “Mae’r sector Addysg yn allweddol os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr, o ran cynyddu’r nifer o ysgolion Cymraeg ac o ran gwella a chynyddu addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae’r cynllun sabothol yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn o beth drwy wella gallu athrawon sydd eisoes yn y system i helpu i fodloni’r cynnydd yn y galw.

“Roedd yn hynod ddiddorol gwylio rhan o’r sesiwn a sgwrsio yn Gymraeg gyda’r rhai gymerodd ran i ddysgu am eu profiadau ar y cwrs a’u cynlluniau i roi strategaethau ar waith i godi safon y Gymraeg ar ôl dychwelyd i’w hysgolion. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad i’r iaith a dw i’n gobeithio y bydd y cwrs hwn yn rhoi’r hyder iddyn nhw wneud gwahaniaeth pan fyddant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.”

Wedi peilota’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol, mae’r Brifysgol bellach wedi cael cadarnhad y bydd y cwrs yn rhedeg eto’r flwyddyn nesaf, gyda’r broses strategol o adnabod athrawon, ar y cyd ag ERW, y Consortiwm Addysg lleol, eisoes wedi dechrau.

Dywedodd Mr Gwilym Dyfri Jones, Pro Is Ganghellor Cysylltiol y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ymddiried ynddi i arwain y cynllun arloesol hwn, Cymraeg Mewn Blwyddyn. Ymfalchïa yn y cynnydd aruthrol y mae’r athrawon eisoes wedi ei wneud a hynny o dan arweiniad tîm o diwtoriaid gweithgar ac ysbrydoledig. Mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.”

Am ragor o fanylion am y cwrs a gweddill arlwy’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg gyda’r Brifysgol, ewch i www.cyrsiausabothol.cymru