Y Drindod Dewi Sant yn sefydlu canolfan i arwain ar ddarpariaeth hyfforddiant iaith
Ar 18 Hydref 2018, bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn lansio canolfan iaith fydd yn cynnig amrediad o wasanaethau’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Gyda thîm o arbenigwyr iaith profiadol, bydd Rhagoriaith, sef canolfan gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, yn cynnig gwasanaethau hyfforddiant iaith ar lefel fasnachol ac yn fewnol i staff a myfyrwyr…